News Centre

Addewid atal cam-drin Caerffili wedi'i gyflwyno ledled Cymru.

Postiwyd ar : 07 Chw 2022

Addewid atal cam-drin Caerffili wedi'i gyflwyno ledled Cymru.
Mae addewid, sydd wedi'i lofnodi'n wreiddiol gan arweinwyr y tair plaid wleidyddol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, i gymryd safiad dim goddefgarwch yn erbyn cam-drin wedi'i addasu a'i gyflwyno ledled Cymru.

“Yn anffodus, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, fe wnaethon ni nodi nifer cynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin, eu bygwth a’u dychryn”, meddai’r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor. “O ganlyniad, cafodd datganiad ar y cyd ei ryddhau ym mis Ionawr gan arweinwyr grwpiau Llafur, Plaid Cymru ac Annibynnol i nodi ein safbwynt yn glir.”

Yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddydd Gwener, cytunodd pob un o’r 22 o arweinwyr cynghorau yng Nghymru i wneud datganiad tebyg ar y cyd yn galw ar bob cynghorydd ac ymgeisydd yn etholiadau lleol mis Mai i ymrwymo i ymgyrch etholiadol deg a pharchus.

Yn ôl datganiad Caerffili:

Yn ogystal â bod yn gwbl annerbyniol, roedd yr ymddygiad camdriniol yn tanseilio egwyddorion rhyddid barn ac ymgysylltu a dadlau democrataidd.

Rydym ni, yng Nghyngor Caerffili, yn ymdrechu i drin pawb â chwrteisi, caredigrwydd a pharch ac, fel Arweinwyr ein grwpiau gwleidyddol, rydyn ni'n sefyll gyda'n gilydd i alw am roi diwedd ar gam-drin, brawychu ac aflonyddu o unrhyw fath.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gychwyn ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.


Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Mae'n wych gweld bod Cyngor Caerffili yn arwain y ffordd o ran ymagwedd gwrth-gam-drin at gynghorwyr ac ymgeiswyr etholiadol.

“Does dim lle i gam-drin o unrhyw fath yn ein Bwrdeistref Sirol ac mae pawb yn haeddu’r hawl i fyw heb ofni cael eu cam-drin. Rydw i wrth fy modd o weld bod ein datganiad ni bellach yn cael ei gyflwyno ledled Cymru gyfan.  Rydw i'n gobeithio y bydd yn rhoi diwedd ar y driniaeth annerbyniol y mae cynghorwyr yn ei chael yn rheolaidd.”
 
Darllenwch ragor o ddatganiad y Cyngor yma


Ymholiadau'r Cyfryngau