News Centre

Ysgolion Caerffili yn ymuno â'r ymgyrch genedlaethol, ‘Bwytewch y Llysiau i’w Llethu’

Postiwyd ar : 14 Chw 2022

Ysgolion Caerffili yn ymuno â'r ymgyrch genedlaethol, ‘Bwytewch y Llysiau i’w Llethu’
Mae’r ymgyrch flynyddol, ‘Bwytewch y Llysiau i’w Llethu’, yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru eleni a bydd yn dechrau 28 Chwefror 28. Mae'r fenter wedi'i hanelu at blant o oedran Derbyn hyd at Gyfnod Allweddol 2 ac mae'n rhedeg am sawl wythnos, gan ganolbwyntio ar hoff lysieuyn y teulu bob wythnos.

Yn ôl ymchwil, nid yw 89% o blant yn bwyta digon o lysiau, felly mae VegPower, y sefydliad dielw, wedi dechrau ymgyrch flynyddol i newid arferion bwyta plant. Yn 2019, lansiodd VegPower yr ymgyrch Bwytewch y Llysiau i’w Llethu am y tro cyntaf mewn partneriaeth ag ITV.

Mae VegPower yn mabwysiadu'r dull unigryw o gytuno â phlant bod llysiau'n ddrwg a chymryd drosodd y byd. Yn ôl yr ymgyrch, sy'n ceisio cynyddu'r defnydd o lysiau ymhlith pobl ifanc, yr unig ffordd i blant guro'r llysiau yw eu bwyta nhw.

Gyda thros £12 miliwn mewn hysbysebu dan arweiniad ITV, Channel Four a Sky, mae’r ymgyrch wedi ‘ysbrydoli’ plant i fabwysiadu'r arfer o fwyta rhagor o lysiau. Mae’r ymgyrch Bwytewch y Llysiau i’w Llethu wedi cael ei chefnogi gan enwogion, gan gynnwys Amanda Holden, Emma Thompson, Ant & Dec, Hugh Fearnley-Whittingstall a Tom Jones.

Yn 2021, cyrhaeddodd yr ymgyrch hanner miliwn o blant yn 1,828 o ysgolion cynradd ac mae disgwyl y bydd 2022 yn dod â ffigurau newydd a fydd yn torri'r record honno.

Gallwch chi lawrlwytho nifer o adnoddau a gweithgareddau llawn hwyl yn uniongyrchol o wefan bwrpasol Bwytewch y Llysiau i’w Llethu: https://eatthemtodefeatthem.com/

Meddai’r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu, “Mae ymdrechion cenedlaethol fel ‘Bwytewch y Llysiau i’w Llethu’ a’r safonau maeth ysgol wedi’u diweddaru yn gweithio i helpu plant i fwyta rhagor o ffrwythau a llysiau. Byddwn i'n annog rhieni i adeiladu ar yr ymdrechion hyn yn y cartref i helpu sicrhau bod plant yn cael pob cyfle i fwyta’n iach ym mhobman.”

Os nad yw'ch plentyn chi eisoes yn cael prydau ysgol am ddim a hoffech chi wneud cais, ewch i'r dudalen prydau ysgol am ddim am ragor o wybodaeth: https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Schools-and-learning/School-dinners-and-breakfast-clubs/Free-school-meals?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau