News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ailgyflwyno Trwyddedau Faniau a Threlars ar gyfer defnyddio ei Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Postiwyd ar : 28 Chw 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ailgyflwyno Trwyddedau Faniau a Threlars ar gyfer defnyddio ei Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Unwaith eto, bydd modd i gerbydau sydd angen trwydded gyrchu holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn amodol ar ddarparu trwydded tipio.

Cafodd y system Trwyddedau Tipio ei chyflwyno gyntaf gan y Fwrdeistref yn 2014, ond daeth y gweithrediadau i ben oherwydd pandemig COVID-19. Bydd y system trwyddedau faniau a threlars yn cael ei hailgyflwyno o 28 Chwefror 2022.

Dim ond trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili all ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, felly wrth gael trwydded, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o breswyliad (trwydded yrru cerdyn-llun, bil cyfleustodau, bil treth y cyngor neu lythyr DWP) a dogfen gofrestru'r cerbyd (V5).

Bydd angen i unrhyw un sy'n dymuno defnyddio fan waith ddarparu cadarnhad ysgrifenedig gan eu cyflogwr y gellir defnyddio'r fan at ddefnydd personol. Er mwyn defnyddio'r safleoedd gyda cherbyd wedi'i logi mae'n rhaid i chi hefyd ddarparu'r cytundeb llogi wrth ofyn am drwydded.

Bydd trwyddedau ar gael trwy apwyntiadau wyneb yn wyneb yn Nhŷ Penallta yn unig, lle bydd trwydded gorfforol yn cael ei darparu ar unwaith neu, am y tro cyntaf, ar-lein, lle bydd PDF o’r drwydded yn cael ei e-bostio at y trigolyn yr un diwrnod gwaith.
 
Mae angen cael trwyddedau o leiaf 24 awr cyn ei ddefnyddio ond dim mwy na phythefnos ymlaen llaw. Bydd ceisiadau am drwyddedau sy'n dod i law dros y penwythnos yn cael eu prosesu y diwrnod gwaith nesaf.

Mae pob trwydded yn ddefnydd untro a rhaid cyflwyno copïau papur ar y safle, fodd bynnag gall trigolion wneud cais am hyd at chwe thrwydded fan am ddim o fewn cyfnod o 12 mis. Mae'r chwe thrwydded yn berthnasol i'r cyfeiriad a'r cerbyd.
 
Anogir trigolion i roi trefn ar eu gwastraff cyn cyrraedd er mwyn cyfyngu ar yr amser ar y safle a gwneud y mwyaf o'r gwasanaeth ailgylchu.
 
Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelu'r Cyhoedd a Strydoedd: “Rydyn ni'n hapus iawn i allu cynnig y gwasanaeth hwn i'n trigolion unwaith eto. Gwyddom fod hon wedi bod yn ddwy flynedd gythryblus ond rydyn ni'n falch o weld gweithrediadau'n dychwelyd i normal.”

Ar gyfer apwyntiadau cysylltwch â 01443 866571 neu e-bostio rhpc@caerffili.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais, slotiau amser trwyddedau a chostau ewch i: https://www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Recycling-centres/Vans-and-trailers?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau