News Centre

Cabinet yn caniatáu cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu tai newydd

Postiwyd ar : 23 Chw 2022

Cabinet yn caniatáu cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu tai newydd
Rhoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ganiatâd ar gyfer cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu cartrefi newydd ar ddau safle.
 
Cymeradwyodd aelodau'r Cabinet gynigion i greu datblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw ar safle hen Ysgol Gyfun Oakdale a chynllun arloesol ar gyfer pobl hŷn ar hen safle cartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.
 
Mae'r Cyngor eisoes wedi cynnal astudiaethau dichonoldeb i asesu addasrwydd y safle tir llwyd yn Oakdale ac mae cais cynllunio amlinellol wedi'i gyflwyno.  Pe bai'n cael ei gymeradwyo, y datblygiad fydd y cyntaf o'i fath gan y Cyngor a fydd yn cynnig cartrefi i gael eu gwerthu ar y farchnad agored ochr yn ochr â thai fforddiadwy a chymdeithasol.
 
Mae cais cynllunio amlinellol hefyd wedi'i gyflwyno ar gyfer hen safle Tŷ Darran.  Bydd yr adeilad newydd arfaethedig ar gyfer pobl hŷn yn cael ei ddylunio gyda lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni i leihau biliau tenantiaid, a hefyd leihau allyriadau carbon.  Bydd hefyd yn cynnwys fflatiau eang a lifft i bob llawr. 
 
Os bydd y datblygiad yn cael ei gymeradwyo, bydd yn cynnwys amrywiaeth o fannau cymunedol y bydd modd eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u trefnu.  Bydd y fflatiau hefyd yn cynnwys mannau awyr agored personol, fel balconïau, ynghyd â gerddi cymunedol hygyrch.
 
Bydd y cynllun tai newydd yn cael ei reoli gan y Cyngor a bydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli tenantiaid presennol o gynlluniau tai yn yr ardal sydd wedi'u rhaglennu i'w cau. 
 
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Rydyn ni wrth ein bodd bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r cynlluniau cyffrous ac arloesol hyn.  Mae'r ddau ddatblygiad yn cynnig cyfoeth o botensial a byddan nhw'n ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiad ni i ddarparu cartrefi cyngor newydd o ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon yn y Fwrdeistref Sirol.
 
“Ni fu erioed mor bwysig mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a lleihau biliau ynni i’n trigolion ni; bydd y datblygiadau di-garbon net arloesol hyn yn cael effaith aruthrol wrth gyflawni hyn.
 
“Yn ogystal â chynyddu ein stoc ni o dai cyngor, fel rhan o’r cynlluniau ar gyfer Oakdale, byddwn ni'n darparu ein heiddo ni i'w gwerthu ar y farchnad agored am y tro cyntaf erioed, ochr yn ochr â chyfleoedd perchentyaeth cost isel i helpu prynwyr tro cyntaf.
 
“Bydd ein cynlluniau cyffrous ni ar gyfer hen safle Tŷ Darran yn cynnwys cyfleuster newydd sy'n wahanol i unrhyw un o'n cynlluniau tai lloches presennol ni; bydd lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, a mannau cymunedol ac awyr agored hyblyg a fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i wella iechyd a lles tenantiaid.
 
“Byddwn ni'n sicrhau bod cymunedau lleol yn cael eu diweddaru wrth i gynlluniau ar gyfer y ddau safle fynd yn eu blaen.”


Ymholiadau'r Cyfryngau