News Centre

Cabinet yn cytuno ar godiad rhent blynyddol

Postiwyd ar : 09 Chw 2022

Cabinet yn cytuno ar godiad rhent blynyddol
Cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar renti tenantiaid ar gyfer 2022/23.
 
Cytunodd aelodau’r Cabinet ar gynnydd o 2%, a fyddai’n cyfateb i gynnydd o £1.84 yr wythnos ar rent tenant cyfartalog o £93.62.
 
Dywedodd y Cyng. Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae sicrhau bod rhenti’n parhau i fod yn fforddiadwy i’n tenantiaid yn allweddol ac mae’r cynnydd o 2% eleni yn parhau i fod yn is na’r uchafswm o 3.1% a ganiateir o dan bolisi Llywodraeth Cymru.
 
“Mae ymarfer ymgynghori helaeth hefyd wedi’i gynnal gyda thenantiaid i ddeall eu barn am fforddiadwyedd, lle dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr wrthym eu bod yn teimlo bod ein rhenti yn deg, yn fforddiadwy ac yn darparu gwerth am arian.
 
“Rydym yn deall y bydd unrhyw gynnydd mewn rhent yn peri pryder ac yn sicrhau tenantiaid bod gennym ystod o gymorth ar gael i denantiaid sy’n profi anawsterau ariannol.
 
“Mae codiadau rhent yn angenrheidiol i’n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n ymwneud â thai, buddsoddi yn ein stoc tai a chyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu tai cyngor newydd.  Os na chaiff rhenti eu cynyddu'n flynyddol, gallai hyn arwain at fenthyca ychwanegol a thaliadau dyled; bydd yn gorfodi’r cyngor i adolygu gwasanaethau.”
 
Gall tenantiaid sydd â phryderon am eu rhent neu sy’n wynebu anawsterau ariannol gysylltu â Gwasanaeth Cymorth i Denantiaid y cyngor ar 01443 866534 neu drwy anfon e-bost at swyddfacymorthtenantiaeth@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau