News Centre

Ydych chi'n barod am yr her Taith Twmbarlwm?

Postiwyd ar : 15 Chw 2022

Ydych chi'n barod am yr her Taith Twmbarlwm?
Bydd Cyfres Heriau Caerffili Nikwax yn dychwelyd ddydd Sadwrn 7 Mai 2022, gyda'r degfed digwyddiad Cyfres Heriau Caerffili – Taith Twmbarlwm.

Fodd bynnag, mae Taith Twmbarlwm wedi'i chynnal ers mwy na 10 mlynedd; cafodd y daith gyntaf ei chynnal 38 o flynyddoedd yn ôl, ym 1984, wedi'i threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Islwyn.

Cafodd Norman Liversuch, sef un o'r trefnwyr ym 1984 ac sydd erbyn hyn yn un o wirfoddolwyr y Gyfres Heriau, ei holi am sut mae'r Daith wedi newid ers 1984. Meddai Norman: “Mae'r llwybrau a chefn gwlad heb newid. Mae'r golygfeydd o'r holl fannau uchel yn dal i fod yr un mor ysblennydd ag roedden nhw ym 1984.

“Mae technoleg wedi newid pethau er gwell. Ym 1984, roedd y fyddin diriogaethol yn staffio ein mannau gwirio, gan ddefnyddio'r Daith fel ymarfer cyfathrebu. Cafodd ein cerddwyr eu diogelu, ond, roedd angen llawer o weithwyr. Y dyddiau hyn, mae dal i fod mannau gwirio, ond, dim ond un gwirfoddolwr gyda sganiwr ‘Fabian 4’ a ffôn symudol sydd ei angen. Mae pawb sy'n cymryd rhan yn gwisgo strap arddwrn ‘Racetek’ sy'n caniatáu i ni eu tracio nhw wrth iddyn nhw symud ar hyd y llwybr.”

Fodd bynnag, mae Norman o'r farn mai rhywbeth arall yw'r gwahaniaeth mwyaf rhwng 1984 a nawr: “Mae'r Gyfres Heriau wedi tyfu mewn maint, yn digwydd mewn gwahanol rannau o'r Fwrdeistref Sirol ac wedi dod yn fwy cynhwysol.

“Ym 1984, doedd dim ond un daith gerdded hir, gyda 126 o gerddwyr pellter mawr, profiadol yn cymryd rhan. Erbyn hyn, mae pedwar llwybr ar gael, rhwng milltir ac 20 milltir o hyd, sy'n golygu bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan.

“Y llynedd, fe wnaeth dros 500 o bobl gymryd rhan mewn taith gerdded a oedd yn addas i'w lefel ffitrwydd a gallu personol. Mae mwy o bobl yn gweld gwerth cefn gwlad, a dydyn nhw ddim yn ofni archwilio a chymryd rhan.”

Mae'r llwybrau'n cael eu cynllunio ar hyn o bryd, ond, bydd llwybrau ar gael sy'n addas i bawb o bob lefel ffitrwydd a gallu. Mae'r teithiau cerdded, fel arfer, yn amrywio o un sydd rhwng 1 a 5 milltir o hyd ac un sydd rhwng 20 a 22 o filltiroedd o hyd – sy'n golygu bod yr her ar gael i bobl o bob oed a gallu.

Mae'r her yn cael ei chynllunio gan gadw COVID-19 mewn cof i sicrhau amgylchedd diogel o ran COVID-19 drwyddi draw.

Mae tocynnau ar gael tan 27 Ebrill am £12. Yn achos pobl ifanc o dan 18 oed, mae gostyngiad o £2 ar gyfer tocynnau a rhaid bod o leiaf 12 oed i gymryd rhan mewn unrhyw her dros 5 milltir o hyd.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer y llwybr sydd rhwng 1 a 5 milltir o hyd, sy'n costio dim ond £2, ac mae modd talu ar y diwrnod. Nid oes isafswm oedran, ac mae'r holl elw er budd elusennau'r Maer, sef Gweithredu dros Blant a Liver4Life.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Cyfres Heriau Caerffili – Taith Twmbarlwm – ewch i: www.caerphillychallengeseries.co.uk/cy


Ymholiadau'r Cyfryngau