News Centre

Cymeradwyo cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai cyngor

Postiwyd ar : 15 Chw 2022

Cymeradwyo cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai cyngor
Mae cynlluniau uchelgeisiol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddatblygu cartrefi newydd ar ddau safle wedi cael eu cymeradwyo gan ei Bwyllgor Craffu Tai ac Adfywio yn ystod cyfarfod o bell ar 10 Chwefror.
 
Cymeradwyodd aelodau craffu, mewn egwyddor, gynigion i greu datblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw ar safle hen Ysgol Gyfun Oakdale a chynllun arloesol ar gyfer pobl hŷn ar hen safle cartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.
 
Mae'r Cyngor eisoes wedi cynnal astudiaethau dichonoldeb i asesu addasrwydd y safle tir llwyd yn Oakdale ac mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno.  Pe bai'n cael ei gymeradwyo, y datblygiad fydd y cyntaf o'i fath i'r Cyngor wrth gynnig gwerthu ar y farchnad agored ochr yn ochr â thai fforddiadwy a chymdeithasol.
 
Mae cais cynllunio hefyd wedi'i gyflwyno ar gyfer hen safle Tŷ Darran.  Bydd yr adeilad newydd arfaethedig ar gyfer pobl hŷn yn cael ei ddylunio gyda lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni i leihau biliau tenantiaid, a hefyd leihau allyriadau carbon.  Bydd hefyd yn cynnwys fflatiau eang a lifft i bob llawr. 
 
Os bydd y datblygiad yn cael ei gymeradwyo, bydd yn cynnwys amrywiaeth o fannau cymunedol y bydd modd eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u trefnu.  Bydd y fflatiau hefyd yn cynnwys mannau awyr agored personol, fel balconïau, ynghyd â gerddi cymunedol hygyrch.
 
Bydd y cynllun tai newydd yn cael ei reoli gan y Cyngor a bydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli tenantiaid presennol o gynlluniau tai yn yr ardal sydd, oherwydd nifer o faterion, wedi'u rhaglennu i'w cau. 
 
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Rydyn ni'n croesawu cefnogaeth aelodau’r Pwyllgor Craffu o ran y cynigion hyn.  Mae'r ddau ddatblygiad yn cynnig cyfoeth o botensial a byddan nhw'n ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiad ni i ddarparu cartrefi cyngor newydd o ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon yn y Fwrdeistref Sirol.
 
“Mae datblygiad Oakdale yn cynnig cyfleoedd i ddarparu tai cymdeithasol newydd y mae mawr eu hangen i helpu ateb y galw cynyddol, ochr yn ochr â chyfleoedd i'r rhai sydd eisiau prynu eiddo am y tro cyntaf drwy berchentyaeth cost isel.
 
“Bydd ein cynlluniau cyffrous ni ar gyfer hen safle Tŷ Darran yn cynnwys cyfleuster newydd sy'n wahanol i unrhyw un o'n cynlluniau tai lloches presennol ni; bydd lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, a mannau cymunedol ac awyr agored hyblyg a fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i wella iechyd a lles tenantiaid.
 
“Byddwn ni'n sicrhau bod cymunedau lleol yn cael eu diweddaru wrth i gynlluniau ar gyfer y ddau safle fynd yn eu blaen.”


Ymholiadau'r Cyfryngau