News Centre

Cadwch y Dyddiad: Hwb Llyfrgell Rhymni yn Ailagor ddydd Llun 8 Ionawr

Postiwyd ar : 20 Rhag 2023

Cadwch y Dyddiad: Hwb Llyfrgell Rhymni yn Ailagor ddydd Llun 8 Ionawr
Bydd Hwb Llyfrgell Rhymni yn ailagor ei ddrysau ddydd Llun 8 Ionawr ar ôl gwaith adnewyddu cyffrous diolch i gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chronfa Trawsnewid Cyfalaf Llywodraeth Cymru.

Roedd y gwelliannau'n cynnwys adnewyddu a moderneiddio dau lawr y llyfrgell, yn ogystal â chreu hwb addysg, darllen a chymorth arloesol i drigolion, staff y Cyngor a sefydliadau partner.

Daeth llawer o'r nodweddion a'r dyluniad newydd o arolwg Llais y Gymuned a gafodd ei gynnal gyda'r gymuned leol.

Bydd Hwb Llyfrgell Rhymni yn cynnig amgylchedd cymorth cyfannol gan ganiatáu pwynt mynediad i'n trigolion i wasanaethau'r cyngor. Bydd amrywiaeth o wasanaethau cymorth y Cyngor ar gael yn yr wythnosau nesaf gan gynnwys Gofalu am Gaerffili, Tîm Treth y Cyngor, Tîm Budd-daliadau'r Cyngor a'r Tîm Ymgysylltu â Chyflogaeth.

Bydd sefydliadau partner allanol, gan gynnwys grwpiau cymunedol, hefyd yn dychwelyd i Hwb Llyfrgell Rhymni ar ei newydd wedd.

Gall cwsmeriaid elwa o fand eang wedi'i uwchraddio, swyddfeydd modern ac ystafelloedd cyfarfod preifat. Mae’r llawr cyntaf wedi’i ddatblygu i fod yn ‘Hwb Dysgu Cymunedol Idris Davies’ sy’n cynnwys gofod dysgu bywiog o’r radd flaenaf a fydd yn dod yn ganolbwynt i barhau i gefnogi’r Gymraeg a Diwylliant Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau:
 “Rwy’n falch iawn y bydd trigolion y fwrdeistref sirol yn gallu profi’r buddion ychwanegol y bydd Hwb Llyfrgell Rhymni yn eu cyflwyno i’r gymuned leol.

“Yn ogystal â’r llyfrgell wych, bydd trigolion yn gallu elwa o fynediad i nifer o wasanaethau cymorth y Cyngor a fydd yn cael eu datgelu yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

“Yn hanesyddol, mae Llyfrgell Rhymni bob amser wedi bod yn ganolbwynt i’r gymuned, ond bydd y gwelliannau i’r cyfleuster yn caniatáu i’r adnodd hollbwysig hwn ddod yn gymaint mwy.”

Bydd Hwb Llyfrgell Rhymni yn ailagor ddydd Llun 8 Ionawr heb lifft gweithredol. I'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig, bydd gwasanaethau'n cael eu symud i'r llawr gwaelod yn ôl yr angen nes bod y lifft newydd wedi'i osod. 


Ymholiadau'r Cyfryngau