News Centre

Disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell yn cael syrpréis Nadoligaidd!

Postiwyd ar : 19 Rhag 2023

Disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell yn cael syrpréis Nadoligaidd!
Cafodd plant Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell anrheg Nadoligaidd annisgwyl gan y cwmni adeiladu, Lancer Scott. Fe wnaeth prif gontractwr y datblygiad, Ffos Caerffili, sydd i fod i agor yn y flwyddyn newydd, wahodd plant yr ysgol i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymgysylltu â'r gymuned.

Roedd y gweithgaredd ymgysylltu â'r gymuned yn cynnwys gweithio gyda Menter Caerffili, a'r plant a oedd yn mynychu clwb gwyliau'r haf yn rhyddhau eu creadigrwydd drwy wneud lluniau creadigol o'r datblygiad er mwyn eu cynnwys ar balisiau'r safle ar Cardiff Road.

I ddangos eu gwerthfawrogiad i'r artistiaid ifanc talentog, cafodd calendrau Adfent personol – a oedd yn cynnwys eu dyluniadau – eu cyflwyno i'r disgyblion fel anrheg am eu gwaith caled ar y prosiect. Cafodd y calendrau eu cyflwyno gan Adam Bidhendy a Jonathan Armitage (Lancer Scott), a Maria Macdonald a Nerys Griffith-Brown (Menter Caerffili).

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd,

“Roedd y calendrau Adfent personol gan Lancer Scott yn ffordd hyfryd o wobrwyo ymdrechion disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell.

“Mae dyluniadau'r plant yn edrych yn wych ar balisiau'r safle ac mae'r cyffro yn dechrau cynyddu yng nghanol y dref wrth i ni ddisgwyl agor Ffos Caerffili yn y flwyddyn newydd.

“Diolch i Lancer Scott a Menter Caerffili am eu gwaith ar hyn.”

Meddai Lancer Scott,
“Mae'r gymuned leol wrth galon cynllun marchnad Ffos Caerffili, felly roedd yn bwysig i ni gysylltu â nhw yn ystod y broses adeiladu. Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o'r datblygiad hwn a hoffen ni ddiolch i ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell am eu dyluniadau gwych ac i'r staff am wneud hyn yn bosibl.”

Bydd Ffos Caerffili yn ganolbwynt cyffrous a bywiog yn y dref sy'n dathlu ysbryd busnesau bach a masnachwyr lleol. Ac yntau wedi'i adeiladu o gynhwysyddion cludo, bydd datblygiad Ffos Caerffili yn fan modern, amlswyddogaethol ac yn gartref i gymysgedd o 28 o fasnachwyr bwyd a diod, siopau annibynnol a mannau gwaith.

Mae datblygiad marchnad Ffos Caerffili yn rhan annatod o'r Cynllun Creu Lleoedd uchelgeisiol, ‘Tref Caerffili 2035’, sef partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.caerphillytown2035.co.uk/cy


Ymholiadau'r Cyfryngau