News Centre

Cytuno ar gynlluniau i drawsnewid gwasanaethau landlordiaid yng Nghyngor Caerffili

Postiwyd ar : 13 Rhag 2023

Cytuno ar gynlluniau i drawsnewid gwasanaethau landlordiaid yng Nghyngor Caerffili
Heddiw (13 Rhagfyr), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi cymeradwyaeth unfrydol i gynlluniau i drawsnewid sut mae tenantiaid yn cael mynediad at eu gwasanaethau landlordiaid.

Cytunodd aelodau’r Cabinet i gau swyddfeydd tai ym Mharc Lansbury, Graig-y-rhaca a’r Gilfach yn barhaol, yn ogystal â swyddfa gymunedol yn Nhŷ Sign, Rhisga.  Fe wnaethon nhw hefyd gytuno i adleoli gwasanaethau landlordiaid i swyddfeydd y Cyngor yn Nhŷ Penallta, sy'n golygu y bydd staff yn ymuno â thîm tai ehangach Cartrefi Caerffili i hwyluso gwaith mewn partneriaeth gwell a lleihau dyblygu.

O dan y cynlluniau newydd, bydd y gwasanaeth landlordiaid yn newid o fodel cyflawni traddodiadol yn y swyddfa i fodel cyflawni yn y gymuned.  Mae hyn yn golygu rhagor o gyfleoedd ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb, yng nghartrefi’r tenantiaid eu hunain ac mewn lleoliadau cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni'n cydnabod bod y dull blaenorol o ddarparu gwasanaethau landlordiaid yn y Fwrdeistref Sirol yn hen ffasiwn ac wedi creu rhwystrau i lawer o denantiaid.

“Fe wnaethon ni ymgynghori â phob tenant ynghylch y cynigion hyn cyn iddyn nhw gael eu hystyried gan y Cabinet.  Diolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad, a ddangosodd fod mwyafrif y tenantiaid yn cytuno â chynigion i staff weithio’n fwy rheolaidd mewn lleoliadau cymunedol ac i Cartrefi Caerffili gynnig rhagor o ymweliadau cartref.

“Bydd y dull canolog hwn yn caniatáu i ni esblygu’r gwasanaeth ymhellach a’n galluogi ni i dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, er budd tenantiaid.  Rydyn ni hefyd yn ehangu ein harlwy digidol, gyda phorth ar-lein yn cael ei lansio yn gynnar yn 2024, a fydd yn ei gwneud yn haws i denantiaid gael mynediad at wybodaeth a rhoi gwybod am bryderon yn gyflym ac yn gyfleus, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.”

Mae tenantiaid Cyngor Caerffili (deiliaid contract) yn gallu cael mynediad at wasanaethau o'u swyddfa dai trwy ffonio 01443 873535, e-bostio TîmTaiCBSC@caerffili.gov.uk neu drwy fynd.

Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at bob tenant yn y flwyddyn newydd i roi rhagor o wybodaeth.


Ymholiadau'r Cyfryngau