News Centre

Dros 9,000 o ymwelwyr yng Nghanol Tref Caerffili ar gyfer Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Caerffili a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni

Postiwyd ar : 08 Rhag 2023

Dros 9,000 o ymwelwyr yng Nghanol Tref Caerffili ar gyfer Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Caerffili a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni
Eleni, cafodd Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Caerffili a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni eu cynnal ddydd Sadwrn diwethaf, 2 Rhagfyr.
 
Cafodd nifer anhygoel o 9,326 o ymwelwyr eu croesawu gan ganol y dref, sy'n golygu mai dyma'r diwrnod prysuraf ers dydd Sadwrn Gŵyl y Caws Bach a gafodd ei chynnal yn ôl ym mis Medi. Roedd 5,855 yn fwy o ymwelwyr na'r dydd Sadwrn blaenorol oedd â 3,471.
 
Yn y ffair roedd y nifer fwyaf o stondinau bwyd, diod a chrefftau sydd wedi bod mewn unrhyw ddigwyddiad y Gaeaf yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda dros 150 yn bresennol. Hefyd, roedd sawl perfformiad stryd, cerddoriaeth fyw, a chyrhaeddodd Siôn Corn hyd yn oed!
 
Fe wnaeth holl siopau stryd fawr y dref gymryd rhan yn yr hwyl, gyda busnesau bach a lleol yn elwa ar weithgareddau'r dydd.
 
Dyma'r hyn oedd gan y masnachwyr a'r busnesau lleol i’w ddweud am y digwyddiad:
 
Dywedodd Gareth Vassey-Jones o LongPlay Coffee, “Doedd dim llawer o gyfle i weld llawer o’r Ffair oherwydd roedden ni mor brysur! Rydw i’n falch iawn gyda’r digwyddiad.”
 
Dywedodd Sian Keen o Hilary's Florist “Roedd Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yn olygfa fendigedig ac mae Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Caerffili yn ddigwyddiad gwych i Gaerffili.”
 
Dywedodd Alun a Ruth Hancock o Bwthyn, “Am ddiwrnod llawn hwyl! Roedd yr orymdaith yn wych, ac roedden ni mor brysur! Fe wnaethon ni i gyd fwynhau ein hunain yn fawr.”
 
Dywedodd Calvin Evans o Aviary, “Roedd yn ddiwrnod da iawn, ac roedden ni’n hynod o brysur!”
 
Hefyd, dywedodd New Foundations, “Roedd y digwyddiad yn dda iawn, ac roedd yn wych gweld y dref i gyd yn cymryd rhan.”


Ymholiadau'r Cyfryngau