News Centre

Cae 3G Newydd yn Dod i Rhisga

Postiwyd ar : 14 Rhag 2023

Cae 3G Newydd yn Dod i Rhisga
Mae Cyngor Caerffili wedi sicrhau £1m o grant cyfalaf Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod cae 3G rygbi a phêl-droed defnydd deuol maint llawn i ddisodli'r cae pob tywydd presennol yn Ysgol Gyfun Rhisga a Chanolfan Hamdden Rhisga.
 
Mae’r cae pob tywydd presennol a’r seilwaith ategol yn dod i ddiwedd ei oes ac nid yw’n addas i'r diben ar hyn o bryd, ond mae'n dal i gael ei ddefnyddio yn ystod y dydd gan yr Ysgol Gyfun i gynorthwyo'r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm a gyda’r nos ac ar benwythnosau gan amrywiaeth o glybiau chwaraeon cymunedol.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, fod y buddsoddiad hwn yn enghraifft arall o’r Fwrdeistref Sirol yn darparu cyfleusterau o ansawdd uchel, addas i’r diben i’w thrigolion a’i phartneriaid, gan ychwanegu bod y buddsoddiad yn Rhisga yn rhoi cyfle unigryw i’r Awdurdod Lleol hybu nod ei Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol.


Ymholiadau'r Cyfryngau