News Centre

Apêl banc bwyd y Cyngor yn codi dros £13,000

Postiwyd ar : 21 Rhag 2023

Apêl banc bwyd y Cyngor yn codi dros £13,000
Mae apêl flynyddol sy'n cael ei chydlynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi codi £13,445 er budd banciau bwyd lleol.

Yn sgil yr apêl, gwnaeth trigolion, staff y Cyngor, contractwyr a chyflenwyr roi rhoddion arian parod ar-lein. Cafodd yr holl arian a gafodd ei godi ei ddosbarthu'n uniongyrchol i fanciau bwyd ledled rhwydwaith bwyd Caerffili.

Dyma rai o'r cwmnïau a gefnogodd yr apêl: Causeway, Fox Group Moving & Storage Ltd, AP Waters Building Contractors Ltd, Albert & Flaherty Ltd, Walters UK Ltd, Calibre Contracting Ltd, A I Landscapes, PHS Group, Creigiau Travel Ltd, JS Lee Services, Getech Ltd, Crafty Legs Events, AMS Heating & Plumbing Ltd, Powell Dobson Architects Ltd, Centerprise International Ltd, Proactis Ltd, Tina Blake Independent Social Worker, Panda Education & Training Ltd, MSH Building Ltd, Riad Maintenance Services Ltd, Andrew Scott Ltd, Integral Geotechnique, KB Taxis, Fusion Electrical & Building Services Engineering Ltd, Just Rails Ltd, LRM Planning Ltd, Cambria Consulting Ltd, Michael Dyson Associates Ltd, Styles Electrical Ltd, SD James Construction, Millennium Building Contractors LLP, Gary Carpenter Building Contactor, Robert Price Builders Merchants Ltd, Busy Feet Ltd, Rhymney House Hotel, Bryn Group, Hedlyn Building Contractors Ltd, Cardiff Lift Company Ltd, Perago, Holdsworth Foods, G Bridges Welding & Plating Ltd, Sunhigh Ltd, AA Woods, Bradfords Minibus Hire, IDS Security Systems Ltd, Ambassador Fire & Security Ltd, Laver Group Ltd, Gibson Specialist Technical Services Ltd, Pinnable Scaffolding, WTH Electrical Ltd, Woosnam Dairies Ltd, Quad Consult, Decoglass & Glazing Ltd, Academia Ltd, Asbri Planning Ltd, Starlight Electrical Services Ltd, New Tredegar Skip Hire, Jon James Studio Architecture, Beechwood Refrigeration & Air Conditioning Ltd, Willmott Dixon Construction Ltd, a Mel Evans Builders.

Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor â chyfrifoldeb am Gymunedau, “Rydyn ni'n cydnabod bod yr argyfwng costau byw presennol ac adeg y Nadolig yn peri heriau sylweddol i nifer o'n trigolion ac rydyn ni'n mynd ati i gynnig amrywiaeth eang o gymorth i'r rhai sy'n cael eu heffeithio.

“Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n dibynnu ar fanciau bwyd. Rydyn ni'n gobeithio bod yr apêl hon yn helpu banciau bwyd i brynu'r cyflenwadau y mae gwir eu hangen arnyn nhw er mwyn cynorthwyo trigolion ymhellach yn ystod cyfnod o argyfwng ariannol.

“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi gwneud cyfraniad mor hael eleni ac i'r rhai a oedd yn gyfrifol am gydlynu'r apêl.”

Am ragor o wybodaeth am fanciau bwyd lleol, cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor ar 01443 811490, e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ewch i www.caerffili.gov.uk/cymorth-costau-byw


Ymholiadau'r Cyfryngau