News Centre

Y Cyngor yn ceisio barn ar y Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl

Postiwyd ar : 20 Rhag 2023

Y Cyngor yn ceisio barn ar y Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i'r Anabl
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datblygu Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat ac Addasiadau i’r Anabl newydd ac mae’n ceisio barn trigolion a rhanddeiliaid.
 
Bydd y polisi newydd yn nodi blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tai'r sector preifat ac yn cynnwys cynlluniau i ddarparu cynnyrch cymorth ariannol i helpu perchnogion preifat (gan gynnwys landlordiaid y sector preifat) a deiliaid contract (tenantiaid yn gynt) i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartrefi nhw. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am ddull y Cyngor o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi.
 
Bydd cyfnod ymgynghori rhwng 27 Tachwedd 2023 a 7 Chwefror 2024 er mwyn i bobl rannu eu barn a dweud eu dweud ar y polisi arfaethedig. Mae modd gwneud hyn drwy ymweld â.
 
Am ragor o wybodaeth neu i unrhyw un a hoffai fod yn rhan o ddatblygu'r strategaeth, cysylltwch â'r Cyngor yn TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811378.


Ymholiadau'r Cyfryngau