News Centre

Hwb cymunedol, Libanus Lifestyle, yn cael cymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghoed Duon a’r ardaloedd cyfagos

Postiwyd ar : 07 Rhag 2023

Hwb cymunedol, Libanus Lifestyle, yn cael cymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddarparu gwasanaethau iechyd a lles yng Nghoed Duon a’r ardaloedd cyfagos
Mae Libanus Lifestyle yn Gwmni Buddiannau Cymunedol cofrestredig ac mae ei elw yn cael ei roi yn syth yn ôl i Ganolfan Libanus. Fel rhan o’r porth i Stryd Fawr Coed Duon, roedd y tiroedd a’r lleoliad wedi gweld amseroedd gwell, felly yn 2014, cafodd Libanus Lifestyle ei greu i ddarparu hwb cymunedol, caffi, a gardd, gan ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau iechyd a lles a lleoliad i'w logi ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau, ac anghenion cymunedol.
 
Fe wnaethon nhw gymryd y brydles drosodd a mynd ati i ddatblygu man cymunedol roedd mawr ei angen i wasanaethu Coed Duon a'r cyffiniau.  Aeth Karen James, ei mab Sion, a gwirfoddolwyr, ati i drawsnewid y gerddi a’r adeilad gydag adnewyddiad llwyr o’r tu mewn i’r adeilad. Mae'r gwaith caled a'r ymrwymiad wedi dwyn gofod gwych i'r gymuned ei ddefnyddio.
 
Maen nhw'n darparu Man Croesawgar am ychydig ddyddiau bob wythnos, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Yn y gorffennol, maen nhw wedi darparu clwb cinio wythnosol a oedd yn llwyddiannus iawn o ran y nifer o bobl a oedd wedi’i fynychu ac roedd y clwb hefyd wedi’i ariannu gan Gronfa Ymrymuso'r Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Mae yna nifer o sefydliadau partner sy'n defnyddio'r ganolfan ar gyfer eu gwasanaethau a'u gweithgareddau, ac rydyn ni'n cydweithio â nhw'n rheolaidd ar brosiectau. Maen nhw wedi cynnal Gweithdai Barddoniaeth gyda chymorth Llenyddiaeth Cymru ac arian cyfatebol gan Dîm Datblygu'r Celfyddydau Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae timau cymorth i deuluoedd y Cyngor yn defnyddio caban yr ardd yn wythnosol ac mae’r gwasanaeth ieuenctid yn defnyddio’r brif neuadd ar gyfer gweithgareddau yn rheolaidd. Mae'r cwmni wedi mynd ar drywydd ffrydiau refeniw eraill gyda dosbarthiadau amrywiol gan gynnwys gweithdai crefft, grwpiau babanod a rhieni a gosod swyddfeydd i fusnesau bach lleol eu rhentu. Maen nhw hefyd yn cynnig llogi'r lleoliad ar gyfer digwyddiadau preifat, gan gynnwys y prosiect diweddaraf, cynnig llogi'r neuadd ar gyfer gwleddoedd priodas fforddiadwy, gan ddefnyddio arlwywyr a busnesau lleol a sicrhau bod calon y gymuned yn flaenllaw.
 
Cafodd Libanus Lifestyle £25,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn ei neilltuo tuag at Libanus Lifestyle trwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o gyllid y Gronfa honno. Cafodd arian cyfatebol ei roi yn ategol i'r grant ac fe gafodd ei ddefnyddio i newid to eu heiddo.
 
Diolch i'r to newydd, mae gostyngiad enfawr wedi bod yng nghostau gwresogi'r adeilad, sy'n golygu y gall arbedion o'r fath fynd yn ôl tuag at y gost o weithredu'r ganolfan. Mae wedi caniatáu iddyn nhw wireddu eu cynlluniau i droi'r atig yn ofod defnyddiadwy.
 
Dywedodd Karen James, “Mae’r cymorth gan Gyngor Caerffili wedi bod yn anhygoel, roedd rhwyddineb y broses ymgeisio am y grant a’r cymorth a gafodd ei roi yn golygu bod yr hyn roedden ni’n meddwl fyddai’n broses frawychus yn un hawdd. Mae'r cyllid wedi golygu ein bod ni nawr yn gallu gwneud y ganolfan yn gynaliadwy fel adeilad masnachol gyda chynlluniau i ddefnyddio'r gofod yn yr atig ymhellach. Mae gwerth y cymorth yn fwy na gwerth ariannol yn unig a bydd yn golygu ein bod ni'n darparu budd hirdymor i’r gymuned gyfan.”
 
Daeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, draw i weld y gwaith roedd y cwmni’n ei wneud a dywedodd, “Mae tîm Libanus yn gweithio’n galed iawn yn y gymuned, felly mae wedi bod yn wych gweld y buddsoddiad cadarnhaol hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn."
 
Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF.

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220.


Ymholiadau'r Cyfryngau