News Centre

Y Nadolig yn dod yn gynnar i un ailgylchwr gwastraff bwyd yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 12 Rhag 2023

Y Nadolig yn dod yn gynnar i un ailgylchwr gwastraff bwyd yng Nghaerffili
Mae ailgylchwr gwastraff bwyd arall wedi cael £500 fel rhan o ymgyrch Gweddillion am Arian Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Scott Gregory o Gaerffili yw enillydd rhif 16 yr ymgyrch gwastraff bwyd a chafodd siec o £500 ei gyflwyno iddo gan Dîm Gwastraff ac Ailgylchu y Cyngor.

Cafodd ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio ym mis Mawrth 2022 gyda’r nod o gynyddu nifer y trigolion sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd ar hyn o bryd.

Tra bod yr Awdurdod Lleol yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn cynyddu ailgylchu gwastraff bwyd, gallai’r wobr ariannol helpu trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, "Yn gyntaf, hoffwn i longyfarch Mr Gregory ar ennill a diolch iddo am gymryd rhan yn ein hagenda ailgylchu gwastraff bwyd.

“Mae’n wych ein bod ni wedi gallu gwobrwyo ailgylchwr gwastraff bwyd arall am ei ymdrechion, ac rydw i’n siŵr y bydd yr enillion yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gyda’r Nadolig ar y gorwel.”

I gael cyfle i ennill gwobr ariannol Gweddillion am Arian am y mis, rhowch eich cadi gwastraff bwyd allan i'w gasglu.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/​gwastraff-bwyd


Ymholiadau'r Cyfryngau