Wedi'i Chanslo - Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni, Bargod
Postiwyd ar : 07 Rhag 2023
Wedi'i Chanslo - Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni, Bargod
Gyda gofid mawr, rhaid i ni gyhoeddi na fydd Bwyd a Chrefft y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni, Bargod yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr 2023.
Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad agos â chyflenwr y stondinau, y Swyddfa Dywydd a daroganwyr tywydd amrywiol drwy gydol yr wythnos, ond yn anffodus, mae’r rhagolygon wedi aros yn gyson, gyda rhagolwg o wyntoedd cryfion ar gyfer y cyfnod adeiladu’r stondinau ddydd Gwener ac yn ystod oriau agor y digwyddiad ddydd Sadwrn.
Yn seiliedig ar yr wybodaeth hon, does gennym ni ddim dewis ond canslo’r digwyddiad, gan fod diogelwch yn hollbwysig i drefniadaeth ein holl ddigwyddiadau.
Rydyn ni wedi gadael y penderfyniad mor hwyr â phosibl, ond y mae’n ddrwg genym ni ein bod ni’n awr wedi gorfod gwneud y penderfyniad terfynol i ganslo’r digwyddiad er mwyn rhoi digon o amser i fasnachwyr, cyflenwyr ac ymwelwyr aildrefnu eu cynlluniau.
Y flwyddyn nesaf, bydd Bargod yn cynnal rhaglen wych o ddigwyddiadau a byddwn ni’n sicrhau bod y gyllideb o’r ffair hon yn cael ei dyrannu i raglen 2024, er mwyn sicrhau ei bod yn fwy ac yn well nag erioed - felly cadwch lygad yn agored!