News Centre

Partneriaeth tai Caerffili yn ennill gwobr genedlaethol

Postiwyd ar : 14 Rhag 2023

Partneriaeth tai Caerffili yn ennill gwobr genedlaethol
Mae prosiect sydd wedi'i ddatblygu a'i gyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymdeithas Tai Unedig Cymru, Platfform a Llamau wedi ennill y categori ‘Gweithio mewn Partneriaeth’ yng Ngwobrau Tai Cymru eleni.
 
Yn cael eu cynnal gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, mae'r gwobrau blynyddol yn dathlu cyflawniadau ac arloesedd ar draws y sector tai yng Nghymru a’r effaith maen nhw'n eu cael ar fywydau cymaint o bobl.
 
Fe wnaeth partneriaeth Caerffili ennill am ei model tai, sy'n defnyddio fflatiau cychwynnol, trosiannol ac ailsefydlu fel llwybr ar gyfer ailgartrefu unigolion sy'n gadael llety dros dro ac sydd angen lefelau llai o gymorth, ond sydd ddim yn hollol barod i fyw'n annibynnol.
 
Mae’r bartneriaeth hon rhwng Tîm Cefnogi Pobl Cyngor Caerffili, Cymdeithas Tai Unedig Cymru, Platfform a Llamau wedi golygu bod unigolion sy’n dod o lety â chymorth yn cael cartref hirdymor sy’n addas ar eu cyfer, gan ganiatáu pontio haws a’u helpu i setlo’n gyflymach.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae'r model yn helpu unigolion i ymgartrefu mewn cartrefi hirdymor, trwy ddarparu amrywiaeth eang o gymorth i’w helpu nhw i ddod yn fwy annibynnol a gallu cynnal eu tenantiaeth.
 
“Rydw i am longyfarch a diolch i bawb a fu’n ymwneud â chyflawni’r prosiect hanfodol hwn ac am ennill y wobr fawreddog hon.”
 
Dywedodd Craig Singler, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Tai yng Nghymdeithas Tai Unedig Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd bod y prosiect wedi’i gydnabod yng ngwobrau tai Cymru eleni.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddyrannu fflatiau cychwynnol, trosiannol ac ailsefydlu ym mhob un o’n datblygiadau tai newydd yng Nghaerffili. Rydyn ni hefyd yn ystyried a yw ein heiddo presennol yn addas i ymuno â’r prosiect wrth iddyn nhw ddod ar gael i’w hailosod, fel y gallwn ni helpu rhagor o bobl sydd angen cymorth dros dro i setlo mewn cartref newydd hirdymor.

“Mae llwyddiant y prosiect yn dyst i’r bartneriaeth rhwng ein sefydliadau.”


Ymholiadau'r Cyfryngau