News Centre

Tîm Cartrefi Gwag Caerffili yn ennill yng Ngwobrau Tai Cymru

Postiwyd ar : 07 Rhag 2023

Tîm Cartrefi Gwag Caerffili yn ennill yng Ngwobrau Tai Cymru
Mae Tîm Cartrefi Gwag Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ennill y wobr ‘Tîm y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Tai Cymru.

Mae'r gwobrau blynyddol, sy'n cael eu cynnal gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, yn dathlu cyflawniadau ac arloesedd ar draws y sector tai yng Nghymru a'r effaith maen nhw'n ei chael ar fywydau cymaint o bobl.

Enillodd Tîm Cartrefi Gwag Caerffili y wobr am ei ymrwymiad, cadernid a chreadigrwydd wrth fynd i'r afael ag eiddo gwag yn y Fwrdeistref Sirol. Yn ystod y flwyddyn diwethaf, llwyddodd y tîm i newid 104 o eiddo gwag yn rhai sydd bellach yn cael eu defnyddio; sef y ffigur blynyddol uchaf hyd yma ar gyfer Cyngor Caerffili. Mae hwn yn cynnwys cwblhau dau werthiant gorfodol cyntaf y Cyngor.

Roedd Cynllun Peilot Tai Arloesol y Cyngor hefyd yn y rownd derfynol ar gyfer y wobr ‘Datblygu Cartrefi o Ansawdd Uchel’. Fe wnaeth y cynllun peilot helpu Cyngor Caerffili i dorri tir newydd trwy fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i ddatblygu cartrefi ffrâm ddur modiwlaidd i gyrraedd y safon ‘Passivhaus’. Drwy ddefnyddio'r dull arloesol hwn, darparodd y rhaglen beilot 18 o gartrefi ag un ystafell wely newydd yn ardal Caerffili, wedi'u hadeiladu i fodloni'r lefelau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni.

Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae'r ddwy restr fer hyn yn dangos sut rydyn ni'n torri tir newydd yng Nghaerffili i ddarparu atebion tai pwrpasol ar gyfer cymunedau lleol.

“Mae Gwobrau Tai Cymru yn tynnu sylw at y goreuon o ran mentrau tai yng Nghymru, felly mae ennill yn gamp wych a hoffwn i longyfarch pawb dan sylw.”


Ymholiadau'r Cyfryngau