News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyhoeddi newidiadau i Ganolfannau Ailgylchu i Gartrefi

Postiwyd ar : 12 Rhag 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyhoeddi newidiadau i Ganolfannau Ailgylchu i Gartrefi
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi newidiadau i’r ffordd y mae trigolion yn defnyddio eu Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi, fel rhan o’u cynlluniau i hybu cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff.

Bydd yr amodau newydd yn dod i rym o 12 Chwefror a bydd yn ofynnol i bob trigolyn ddidoli ei wastraff a'i ddeunyddiau ailgylchu gartref ymlaen llaw, cyn ymweld ag unrhyw un o Ganolfannau Ailgylchu i Gartrefi'r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Mae gennym ni broblem wastraff ddifrifol yma ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae angen i ni fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol yn ein dull o fynd i’r afael â hyn.

“Mae’r gwastraff cartref sydd wedi'i adael yn y sgipiau gwastraff cyffredinol mewn Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yr uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd, ac er ein bod ni wedi cyflwyno mesurau i geisio mynd i’r afael â hyn, fel gofyn am dystiolaeth preswylio, mae angen gwneud mwy.”

Bydd y mesur newydd, sy'n cyd-fynd â sut mae cynghorau eraill ledled Cymru yn gweithredu, yn cyfarwyddo trigolion i wahanu deunyddiau ailgylchadwy ac anailgylchadwy gartref, er mwyn trefnu popeth yn hawdd yn y cynwysyddion cywir wrth ymweld â Chanolfannau Ailgylchu i Gartrefi.

Bydd unrhyw wastraff sy'n dod i'r Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi mewn bagiau hefyd yn cael ei fonitro, a bydd gofyn i drigolion agor y bagiau i sicrhau nad oes unrhyw ddeunyddiau ailgylchadwy y tu mewn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Morgan, “Fe wnaeth dadansoddiad cyfansoddiadol diweddar ddatgelu y gallai tua 50% o gynnwys ein sgipiau gwastraff cyffredinol fod wedi cael ei ailgylchu.

“Mae’r gofynion cyn-didoli newydd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr ag ad-drefnu ein Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi yn llwyr i sicrhau bod ein trigolion yn gallu lleihau gwastraff ac ailgylchu ystod ehangach o ddeunyddiau.”

Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy'n gallu cael ei ailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu i Gartrefi, ewch i: www.caerffili.gov.uk/canolfannauailgylchu
 


Ymholiadau'r Cyfryngau