News Centre

Cyngor Caerffili yn cymeradwyo adroddiad y Gwasanaethau Cymdeithasol

Postiwyd ar : 05 Rhag 2023

Cyngor Caerffili yn cymeradwyo adroddiad y Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo adroddiad sy’n amlinellu’r llwyddiannau a’r heriau o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Mae Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, a gafodd ei gymeradwyo yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddydd Mercher 29 Tachwedd, yn adlewyrchu ar berfformiad yn ystod 2022/23 yn ogystal ag amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae cyflawniadau allweddol a gafodd eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad, yn cynnwys:
  • Dechrau gwaith dymchwel i ddatblygu tai seibiant newydd i oedolion a phlant.
  • Prynu dau eiddo i ddatblygu dau gartref plant â gwelyau.
  • Cydweithio â'r bwrdd iechyd wedi arwain at ehangu Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru i ddarparu gwasanaeth i oedolion hŷn â phroblemau iechyd meddwl.
  • Y Cyngor wedi cyflogi pobl ag anabledd dysgu i weithio mewn caffi cymunedol.
Mae’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:
  • Parhau i ehangu gofal preswyl i blant a llety â chymorth i bobl ifanc ledled y Fwrdeistref Sirol.
  • Archwilio agor siop goffi gymunedol arall i ddarparu rhagor o gyfleoedd i bobl ddysgu a datblygu sgiliau newydd.
  • Cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi mewn prosiectau cyfleoedd dydd.
  • Agor cyfleuster seibiant ychwanegol i blant ag anableddau.
 
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol, “Mae’r sector gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu heriau sylweddol wrth i ni barhau i ymdrin ag effaith y pandemig gyda'r argyfwng costau byw yn y cefndir.

“Rydw i’n falch iawn o weld ein bod ni'n parhau i ymateb i’r her yng Nghaerffili, gan ddod o hyd i atebion arloesol i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar unigolion i’r rhai sydd eu hangen fwyaf ac rydw i am ddiolch i’r holl staff a fu’n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol ar draws y Cyngor.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau