News Centre

Gofalu am Gaerffili a Prydau Prydlon yn ymuno i gynnig pecynnau cynnes a blancedi i breswylwyr

Postiwyd ar : 19 Rhag 2023

Gofalu am Gaerffili a Prydau Prydlon yn ymuno i gynnig pecynnau cynnes a blancedi i breswylwyr
Mae staff Prydau Prydlon wedi ymuno â Gofalu am Gaerffili i ddarparu cyflenwad o flancedi crosio hardd, wedi'u gwneud â llaw ac wedi'u rhoi gan wirfoddolwyr o Ganolfan Glowyr Caerffili.

Mae hyn yn rhan o'r ymateb ehangach i'r argyfwng costau byw lle ariannodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y ddarpariaeth o becynnau cynnes i helpu preswylwyr agored i niwed i gadw'n gynnes yn eu cartrefi neu wrth fentro yn yr awyr agored y gaeaf hwn.

Wedi’i gydlynu gan Dîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor, mae tua 900 o becynnau wedi’u dosbarthu hyd yn hyn yn ystod cyfnod yr hydref a’r gaeaf hwn, gyda phob pecyn yn cynnwys eitemau wedi’u cynllunio i “gynhesu’r person, nid y cartref” fel het, sgarff, menig, blanced, potel dŵr poeth, mwg thermol, cynheswyr dwylo a thermomedr cartref.  Roedd nifer fach o becynnau gwell hefyd yn cynnwys is-haenau thermol a chynheswyr corff.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Mae hwn yn weithred mor hyfryd gan wirfoddolwyr Canolfan Glowyr Caerffili. Mae staff Prydau Prydlon yn chwarae rhan hanfodol yn y gymuned ac mae eu cael nhw i helpu gyda gwaith ehangach Gofalu am Gaerffili yn dyst i’r gwaith partneriaeth rydyn ni'n ei feithrin yn Nhîm Caerffili.”

Ffôn: 01443 811490 | E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk | Gwefan: www.caerffili.gov.uk/cymorth-costau-byw


Ymholiadau'r Cyfryngau