News Centre

Cabinet Caerffili yn cytuno ar gynnydd rhent blynyddol

Postiwyd ar : 13 Rhag 2023

Cabinet Caerffili yn cytuno ar gynnydd rhent blynyddol
Heddiw (13 Rhagfyr), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno ar y cynnydd rhent blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25.

Er mwyn helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau sy'n ymwneud â thai a buddsoddi mewn cartrefi tenantiaid, mae cynnydd o 6.7% wedi cael ei gytuno. Bydd hyn yn cynyddu'r rhent cyfartalog presennol o £6.68 yr wythnos, o £99.72 i £106.40 yr wythnos dros 52 wythnos.

Mae’r cynnydd hwn yn unol â pholisi gosod rhent Llywodraeth Cymru ac, yn ôl amcangyfrif, bydd rhenti Cyngor Caerffili’n parhau i fod yn y chwartel isaf ar gyfer rhenti ledled awdurdodau lleol Cymru; sy'n golygu eu bod nhw'n aros yn fforddiadwy.

Mae tua 77% o denantiaid y Cyngor yn cael budd-dal tai/credyd cynhwysol, sy'n golygu y bydd y costau uwch i'r grŵp hwn yn cael eu talu hyd at y gyfradd cyfyngu ar fudd-dal tai.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae cynyddu rhent yn flynyddol yn angenrheidiol i sicrhau ein bod ni'n gallu darparu gwasanaethau, cynnal gwaith cynnal a chadw a gwella cartrefi tenantiaid. Os nad oes cynydd blynyddol, gallai hyn arwain at fenthyca ychwanegol a thaliadau dyled; gan orfodi'r Cyngor i adolygu gwasanaethau.

“Rydyn ni'n deall y bydd unrhyw gynnydd mewn rhent yn peri pryder ac am roi sicrwydd i denantiaid bod gennym ni ystod o gymorth ar gael i denantiaid sy’n profi anawsterau ariannol.”
 
Gall tenantiaid sydd â phryderon am eu rhent neu sy'n wynebu anawsterau ariannol gysylltu â Gwasanaeth Cymorth Tai y Cyngor ar 01443 866534 neu drwy anfon e-bost i SwyddfaCymorthTenentiaeth@caerffili.gov.uk
 


Ymholiadau'r Cyfryngau