News Centre

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig croeso cynnes

Postiwyd ar : 14 Rhag 2023

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig croeso cynnes
Mae lleoliadau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig croeso cynnes y gaeaf hwn i unrhyw un y mae biliau ynni cynyddol a’r argyfwng costau byw yn effeithio arnyn nhw.
 
Mae’r ‘Mannau Croesawgar’ wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a grwpiau yn y sector cymunedol a gwirfoddol.
 
Gall pob Man Croesawgar edrych yn wahanol, gyda rhai yn dewis cynnig gweithgareddau, cymorth neu hyd yn oed fwyd poeth a diod. Mae lleoliadau yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi a chlybiau chwaraeon. Mae Mannau Croesawgar ar gael i'w defnyddio am ddim ac mae croeso cynnes i bawb. 
 
Gallwch chi ddod o hyd i restr lawn ar-lein, drwy wefan y Cyngor: Caerffili - Bwrdeistref Sirol Caerffili
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau, “Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar gymaint o fywydau. Rydyn ni'n falch o weithio gyda chymunedau lleol i gynnig mannau croesawgar eto eleni, fel un o’r ffyrdd rydyn ni'n gweithio i gynorthwyo trigolion yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gall misoedd y gaeaf fod yn gyfnod arbennig o anodd; mae mannau croesawgar yn cynnig cysur a chynhesrwydd i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi, yn ogystal â chwmni i'r rhai a allai fod yn teimlo'n ynysig neu'n unig.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am fannau croesawgar y Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys gwybodaeth i grwpiau cymunedol ar ymuno â’r rhwydwaith, cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor drwy e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811490


Ymholiadau'r Cyfryngau