Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2023
Busnes o Gaerffili, Asbri Golf Ltd, yn cael cymorth Tîm Menter Fusnes Cyngor Caerffili i hybu gwerth
News Centre
Busnes o Gaerffili, Asbri Golf Ltd, yn cael cymorth Tîm Menter Fusnes Cyngor Caerffili i hybu gwerthiant a chydnabyddiaeth hyd yn oed yn rhagor
Postiwyd ar : 13 Rhag 2023
Cafodd Asbri Golf Ltd, sydd wedi’i leoli yng Nghaerffili, ddiwedd gwych i’r flwyddyn gyda help gan gymorth masnach ryngwladol Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Gyda chymorth Sarah Gaze, Swyddog Cymorth Masnach Ryngwladol y Cyngor, roedd Grant Masnach Ryngwladol o £2,000.00 wedi’i sicrhau o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i helpu ariannu ymweliad masnach diweddar â Chanada.
Wedi'i sefydlu gan Eryl Williams yn 2001, roedd Asbri yn wasanaeth ymgynghori dylunio cynnyrch yn wreiddiol a oedd wedi'i gomisiynu i ddylunio esgidiau, dillad ac ategolion chwaraeon i lawer o frandiau byd-eang gan gynnwys Fila, Kappa, Puma ac Umbro. Gan ddefnyddio'r gwaith dylunio cynnyrch, datblygu, a chyrchu gwybodaeth hwn, cafodd Asbri Golf ei lansio yn 2003. Mae enw'r brand, 'Asbri', sef 'spirited' neu 'vivacious' yn Saesneg, yn cyfleu holl ethos eu cwmni.
Tyfodd y gefnogaeth i’r brand a’r cynnyrch yn gyflym ledled y DU a thramor, ond cynyddodd gwerthiant ar raddfa fyd-eang pan gyhoeddodd yr European Tour mai Asbri fyddai Trwyddedai Swyddogol Cwpan Ryder 2010, a gafodd ei gynnal yn y Celtic Manor Resort. Mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth ac, erbyn hyn, maen nhw'n gwerthu dros 200 o wahanol gynhyrchion golff a chyflenwi dros 5,000 o glybiau a chyrchfannau golff mewn 35 o wledydd ledled y byd. Gan arbenigo mewn ategolion logo cribog a phersonol, mae eu portffolio helaeth yn darparu ar gyfer y cyrchfannau golff a'r brandiau corfforaethol mwyaf yn y byd.
Wedi'u dewis gan chwaraewyr proffesiynol y PGA fel eu brand dibynadwy ar gyfer ategolion personol, mae eu busnes yn ymestyn o gyrsiau agos i gartref fel Clybiau Golff Brenhinol Porthcawl a Dewi Sant i gwsmeriaid dramor Clybiau Golff Brenhinol Montréal a Sydney. Maen nhw hefyd wedi gweld eu cwmni yn tyfu i gyflenwi cwmnïau rhyngwladol fel Bentley, Mercedes-Benz, Pepsi, a llawer o rai eraill yn eu dewis ar gyfer eu hanghenion ar ddiwrnod golff.
Maen nhw wedi dychwelyd yn ddiweddar o ddigwyddiad masnach hynod lwyddiannus yng Nghanada yn cynorthwyo eu dosbarthwyr yno gyda'u harddangosfa fasnach genedlaethol fwyaf. Helpodd eu hymweliad eu dosbarthwyr yng Nghanada i sicrhau archebion mawr i'w dosbarthu yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf a chyflogi staff newydd i ymuno â'r busnes sy'n tyfu'n gyson. Gyda'r nod o fod yn arweinydd byd-eang ym maes ategolion golff, mae'r cwmni'n sicr yn anelu at lefel uchaf y gamp.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y