News Centre

Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Coed Duon yn denu miloedd o bobl i ddathlu

Postiwyd ar : 04 Rhag 2023

Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf Coed Duon yn denu miloedd o bobl i ddathlu
Cafodd ail Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf y flwyddyn ei chynnal yng nghanol tref Coed Duon ddydd Sadwrn 25 Tachwedd.

Fe wnaeth y ffair ddenu 7,627 o ymwelwyr i'r dref, gan sicrhau'r diwrnod prysuraf yn nhref Coed Duon ers Ffair y Gwanwyn ym mis Mawrth. Hefyd, roedd 4,730 yn fwy o ymwelwyr na'r dydd Sadwrn blaenorol.

Roedd amrywiaeth eang o adloniant a gweithgareddau gwych yn y ffair, gan gynnwys Ogof Siôn Corn, perfformiadau cerddoriaeth fyw, gweithdai crefft, reidiau ffair hwyl, gwerthwyr bwyd, a llawer mwy.

Fe wnaeth busnesau bach a lleol elwa ar ddathliadau'r diwrnod wrth i holl siopau stryd fawr y dref ymuno yn yr hwyl.

Dyma'r hyn a ddywedodd y masnachwyr a'r busnesau lleol am y digwyddiad:

Dywedodd Gavyn Bolton, McKenzie's Café, “Amrywiaeth dda o ymwelwyr, fe gawson ni lawer o gwsmeriaid newydd a diwrnod hynod o brysur, dyma'r prysuraf i ni weld y Stryd Fawr ers amser maith!”

Dywedodd Huw Edwards, Tidal's, “Diwrnod gwirioneddol wych, roedd y dref yn edrych yn anhygoel, stondinau o safon dda ar gael, roedd y prysurdeb yn Stryd Fawr Coed Duon yn syfrdanol!”

Dywedodd Dave Ridley, Ridley's Shoe Repairs & Key Cutting, “Llawer o bobl, y nifer fwyaf o ymwelwyr i ni ei chael ar gyfer digwyddiad yn ôl pob tebyg, wedi denu llawer o bobl i'r dref!”

Dywedodd Emma Locke, Makeup Locker y tu mewn i Heavenly Brows, “Digwyddiad anhygoel eleni, nifer fawr o ymwelwyr ac awyrgylch gwych!”

Dywedodd Kismet Blackwood, “Diwrnod cynhyrchiol iawn, prysur iawn, fe wnaeth y tywydd helpu yn sicr, roedd ein siop ac ystafell de yn llawn!”

Am ragor o wybodaeth am ein rhaglen digwyddiadau'r gaeaf, ewch i www.visitcaerphilly.com neu dudalen Croeso Caerffili ar Facebook.


Ymholiadau'r Cyfryngau