News Centre

Amserlen wedi'i chytuno ar gyfer astudiaeth diogelwch ffyrdd ‘Troadau Wyllie’

Postiwyd ar : 16 Rhag 2022

Amserlen wedi'i chytuno ar gyfer astudiaeth diogelwch ffyrdd ‘Troadau Wyllie’
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi amlinellu'r brif amserlen er mwyn cyflawni astudiaeth diogelwch ar y ffyrdd annibynnol o'r B4251, sef ‘Troadau Wyllie’ yn ôl yr enw lleol.
 
Cytunodd Cabinet y Cyngor yn ddiweddar i ailwerthuso'r mesurau diogelwch presennol ar y safle, a chytuno hefyd i weithio’n agos gyda theulu Laurie Jones a fu farw yn dilyn damwain ar y ffordd yn 2019.
 
Mae Christina Harrhy, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, bellach wedi ysgrifennu at y teulu i roi amserlen amcangyfrifedig a cherrig milltir allweddol i ymgymryd ag astudiaeth diogelwch ar y ffyrdd.
 
Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn paratoi dogfen friffio a fydd yn cael ei rhannu â'r teulu cyn y Nadolig. Yna, mae'r Cyngor yn bwriadu penodi ymgynghorydd annibynnol ym mis Chwefror i wneud y darn o waith allweddol hwn.
 
Unwaith y bydd adroddiad drafft wedi ei ddatblygu gan yr ymgynghorydd, bydd yr argymhellion yn cael eu rhannu â'r teulu a chynghorwyr lleol. Rhagwelir bydd yr adroddiad drafft yn barod ym mis Mawrth.
 
Yn dilyn hyn, bydd adroddiad yn cael ei baratoi i'w ystyried gan Gabinet y Cyngor ym mis Mai/Mehefin.
 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Byddwn ni'n ymdrechu i sicrhau bod y teulu a chynghorwyr lleol yn cael eu cynnwys drwy gydol y broses, rydw i hefyd yn cydnabod bod budd ehangach i'r cyhoedd yn y mater hwn, felly, drwy gydol y broses, byddwn ni'n darparu diweddariadau rheolaidd i'r gymuned hefyd.”
 
“Bu sawl damwain anffodus ar y rhan hon o’r briffordd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda dwy ohonyn nhw yn anffodus yn angheuol.” Ychwanegodd, “Rwy’n siŵr y bydd y gymuned yn croesawu’r ffaith ein bod ni'n ymateb yn gadarnhaol i’r pryderon a godwyd ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am y cynnydd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau