News Centre

Ffair y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni hynod lwyddiannus yng Nghaerffili yn dod â’r nifer mwyaf erioed o ymwelwyr i’r dref

Postiwyd ar : 14 Rhag 2022

Ffair y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni hynod lwyddiannus yng Nghaerffili yn dod â’r nifer mwyaf erioed o ymwelwyr i’r dref
Cafodd trydedd Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn y Fwrdeistref Sirol eleni ei chynnal yng nghanol tref Caerffili ar ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr, ac roedd yn llwyddiant ysgubol arall i’r Fwrdeistref Sirol.

Cafodd nifer trawiadol o dros 7,500 o bobl ei gofnodi ar y peiriant cyfrif ymwelwyr yng nghanol y dref, sef mwy na dwbl nifer yr ymwelwyr o gymharu â’r penwythnos blaenorol. Cafodd swm syfrdanol o 25,500 o ymwelwyr ei gofnodi yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell ar y peiriant cyfrif ymwelwyr, sy'n fwy na'r nifer a aeth i'r Ŵyl Fwyd ac i Ŵyl y Caws Bach yn gynharach yn y flwyddyn. Yn ogystal, daeth 2,000-3,000 o bobl i wylio’r orymdaith lusernau ysblennydd a’r arddangosfa tân gwyllt yn hwyrach yn y nos, ar ôl i bron i 1,000 o lusernau gael eu gwneud yn y gweithdai cyn yr orymdaith.

Roedd dros 60 o stondinau bwyd a chrefft yn bresennol yn ystod y dydd, ac roedd rhai ohonyn nhw'n cynnwys Marchnad Crefftwyr Caerffili, Ffair Bwyd a Chrefft Crafty Legs a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell. Fe wnaeth y rhan fwyaf o fasnachwyr werthu popeth a oedd ganddyn nhw. Daeth yr holl berfformwyr stryd â’r adloniant, gan gynnwys Tywysog Iâ, pluen eira crwydrol, coblynnod Siôn Corn gyda’u 'Good-O-Meter', 'Surf’s Up Santa', a Choeden Nadolig ar Goesau Bachau.  Roedd yna hefyd rai perfformwyr byw anhygoel yn yr orymdaith: Henllys Pipes & Drums Band, Cardiff Imperial Redcoats, Samba Galêz, a Giant Lumens.

Clywch beth oedd gan fusnesau lleol i’w ddweud am y digwyddiad:

Dywedodd Sarah Harris-Clint o Crafty Legs Events, “Am ddiwrnod anhygoel a noson wych. Roeddwn i mor falch a hapus o fod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol mor wych yn ein tref leol ni. Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau hapus llawn gwenau o gwmpas a'i weld mor brysur. Roedd ein crefftwyr a'n busnesau bach ni wrth eu bodd. Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu’n dda iawn o’r dechrau i’r diwedd ac roedd yr orymdaith lusernau a’r tân gwyllt yn ddiweddglo ardderchog i ddiwrnod gwych i Gaerffili!”

Dywedodd Christopher Hall o Farchnad Crefftwyr Caerffili, “Cafodd pawb a ymunodd â ni ym Marchnad Crefftwyr Caerffili amser gwych yn Ffair Fwyd a Chrefft Caerffili. Roedd yr awyrgylch yn drydanol, roedd gweld cymaint o bobl allan yn mwynhau eu hunain yn swynol ac roedd y tân gwyllt ar y diwedd yn eithaf arbennig.”

Dywedodd Martin Cook o Coffi Vista, “Roedd yn un o’n diwrnodau masnachu gaeaf mwyaf llwyddiannus erioed yng Nghaerffili! Fe wnaethon ni ymestyn ein horiau agor ni i gyd-fynd ag oriau agor y digwyddiad. Roedd yn llwyddiant mawr ar ein rhan ni. Braf oedd gweld cymaint o ymwelwyr i’r dref o’r tu allan i’r ardal. Roedd y ffordd y cafodd y castell ei oleuo, y tân gwyllt a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yn ychwanegu at y dathliadau a'r awyrgylch. Rwy’n mawr obeithio y bydd yn rhywbeth sy’n parhau yn y dyfodol!”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Digwyddiad llwyddiannus arall yng Nghaerffili. Daeth masnachwyr a thrigolion allan yn llu i gefnogi'r dref. Ffantastig!"


Ymholiadau'r Cyfryngau