News Centre

Cadarnhau cyllid ar gyfer gwaith datblygu marchnad arfaethedig

Postiwyd ar : 19 Rhag 2022

Cadarnhau cyllid ar gyfer gwaith datblygu marchnad arfaethedig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sicrhau cyllid i fwrw ymlaen â gwaith datblygu marchnad newydd yng nghanol tref Caerffili.

Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu fel rhan o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac mae'n gam nesaf cyffrous yn y gwaith o adfywio canol tref Caerffili.
 
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jamie Pritchard, “Mae hyn yn newyddion i'w groesawu, ac mae'n dangos ymrwymiad Cyngor Caerffili a Llywodraeth Cymru i wneud buddsoddiadau sylweddol er mwyn datblygu cyfleoedd busnes newydd yng Nghaerffili.”
 
Ychwanegodd, “Rydyn ni nawr yn aros am ganlyniad penderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol ynghylch y cais cynllunio ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.”
 
Mae disgwyl i'r farchnad arfaethedig gynnwys:
  • 28 o unedau masnachol bach newydd.
  • 7 bar a bwyty newydd cyffrous.
  • Lle ar gyfer 15 yn rhagor o stondinau marchnad dros dro ar gyfer marchnadoedd misol neu wyliau lleol.
  • Lle ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau awyr agored.
  • Ardaloedd eistedd allanol dan do mewn arddull ‘neuadd farchnad’.
  • Ffryntiad ar gyfer Cardiff Road – gan helpu i wneud gwelliannau pellach i'r stryd fawr, sydd eisoes yn llwyddiannus.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac ystod o bartneriaid eraill i gyflawni'r glasbrint uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer y dref, sef Rhaglen Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035. Am ragor o fanylion, ewch i'r wefan bwrpasol: www.caerphillytown2035.co.uk/cy


Ymholiadau'r Cyfryngau