Gwasanaethau’r Cyngor dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Postiwyd ar : 20 Rhag 2022
Bydd llawer o'n gwasanaethau ar gau dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ond gallwch chi gael mynediad at lawer o wasanaethau ar-lein o hyd. www.caerffili.gov.uk
Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau nad ydynt yn rhai critigol yn cau am hanner dydd ddydd Gwener 23 Rhagfyr 2022 ac ailagor am 8.30am ddydd Mawrth 3 Ionawr 2022.
Manylion Pellach Gwybodaeth am wasanaethau dros y Nadolig
Casglu gwastraff
Bydd y diwrnodau casglu gwastraff yn newid dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, fel a ganlyn:
Diwrnod casglu arferol
|
Diwrnod casglu newydd
|
Dydd Sadwrn 24 Rhagfyr
|
Dim casgliadau
|
Dydd Sul 25 Rhagfyr
|
Dim casgliadau
|
Dydd Llun 26 Rhagfyr
|
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr
|
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr
|
Dydd Mercher 28 Rhagfyr
|
Dydd Mercher 28 Rhagfyr
|
Dydd Iau 29 Rhagfyr
|
Dydd Iau 29 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 30 Rhagfyr
|
Dydd Gwener 30 Rhagfyr
|
Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr
|
Dydd Sadwrn 31 Rhagfyr
|
Dim casgliadau
|
Dydd Sul 1 Ionawr
|
Dim casgliadau
|
Dydd Llun 2 Ionawr
|
Casgliad arferol
|
DDydd Mawrth 3 Ionawr
|
Casgliad arferol
|
Noder:
- Sicrhewch fod eich holl wastraff a deunyddiau i'w hailgylchu yn y man casglu erbyn 6am.
- Bydd deunyddiau ychwanegol i'w hailgylchu yn cael eu casglu, ond bydd angen iddyn nhw fod mewn bagiau clir.
- Gallwch chi roi ychydig o gardbord yn eich bin ailgylchu; gallwch chi fynd â mwy o gardbord i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Cofiwch fynd â'ch coed Nadolig i'r canolfannau hyn i'w hailgylchu nhw hefyd!
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer heblaw am Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Bydd y canolfannau'n cau am 2.30pm ar Noswyl Nadolig. I gael gwybod yr oriau agor, ewch i'r adran canolfannau ailgylchu.
Cymorth brys
Os byddwch chi'n wynebu argyfwng y tu allan i'r oriau agor uchod, ffoniwch:
- 01443 875500 os yw'n argyfwng cyffredinol
- 0800 328 4432 os yw'n argyfwng o ran gwasanaethau cymdeithasol