News Centre

Safonau Masnach y Cyngor yn helpu i arwain erlyniad yn erbyn masnachwr twyllodrus

Postiwyd ar : 22 Rhag 2022

Safonau Masnach y Cyngor yn helpu i arwain erlyniad yn erbyn masnachwr twyllodrus
Mae Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Dinas Casnewydd wedi arwain erlyniad i ddod â masnachwr twyllodrus o flaen ei well. 

Ar ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2022, ar ôl pledio'n euog i ddwy drosedd yn ymwneud â dioddefwyr yng Nghaerffili a phedwar cyhuddiad tebyg yn ymwneud â dioddefwr yng Nghasnewydd, cafodd James Mochan ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar a gorchymyn i dalu iawndal o £2,820 o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.

Cafodd Mochan ei gyhuddo'n wreiddiol o droseddau yn ymwneud â dau ddioddefwr ar wahân ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, lle byddai e'n cyflwyno'i hun gan ddefnyddio'r enw James Morgan ac yn cynnig gwneud gwaith adeiladu/garddio yn eu heiddo.

Ar ôl mynnu taliad ymlaen llaw, cafodd y gwaith ei adael heb ei gwblhau neu wedi'i wneud i safon anniogel.

Disgrifiodd dioddefwyr Mochan, a oedd yn agored i niwed oherwydd eu hoedran a'u hanawsterau meddygol, fel person “bygythiol iawn” a dweud mewn datganiad, “Fe wnes i ei dalu fe oherwydd roedd ofn arna i. Fe wnes i ffonio'r heddlu ar unwaith ar ôl iddo fe adael.”

Roedd un o ddioddefwyr Mochan wedi nodi rhif cofrestru ei gerbyd ac wedi rhoi gwybod i Safonau Masnach am y mater, a oedd wedi cadarnhau mai ei enw oedd James Andrew Mochan. Roedd y trigolyn hefyd yn gallu cadarnhau, o luniau ar ei dudalen Facebook, fod Mochan wedi gwneud y gwaith yn ei eiddo.

Ar 20 Mawrth 2022, cafodd Mochan ei arestio yn ardal Aberdâr gan Heddlu De Cymru a chafodd ei gyfweld gan Safonau Masnach.

Dywedodd barnwr yr achos, y Cofiadur Andrew Hammond, wrth Mochan: “Fe wnaethoch chi, yn fwriadol, dargedu dioddefwyr a oedd yn agored i niwed ac fe wnaethoch chi eu bwlio nhw i gydymffurfio.

“Rydych chi'n warth.”

Wedi hynny, plediodd Mochan yn euog i ddau o'r tri chyhuddiad a bydd e nawr yn treulio dwy flynedd yn y carchar.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd: “Rydyn ni'n falch iawn o wybod ei fod e wedi dod o flaen ei well a bod dioddefwyr troseddau Mr Mochan yn cael eu digolledu.

“Da iawn a diolch i Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Dinas Casnewydd am eu cyfranogiad yn yr achos hwn.”


Ymholiadau'r Cyfryngau