Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2022
Cabinet Caerffili yn cytuno ar gamau tuag at fflyd wyrddach
News Centre
Cabinet Caerffili yn cytuno ar gamau tuag at fflyd wyrddach
Postiwyd ar : 01 Rhag 2022
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo'n unfrydol y camau nesaf yn ei gynlluniau ar gyfer datgarboneiddio ei gerbydau fflyd.
Cefnogodd aelodau'r Cabinet yr ymdrechion sydd wedi cael eu gwneud hyd yma gan gyflawni ymrwymiad y Cyngor i ddod yn garbon sero net erbyn 2030, gan gynnwys gosod tri hwb gwefru cerbydau trydan mewn lleoliadau yn Nhir-y-berth a Thŷ Penallta yn Ystrad Mynach.
Yn ystod cyfarfod ar 30 Tachwedd, roedd aelodau'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo cynnig i ganiatáu i staff ac ymwelwyr ddefnyddio'r hybiau gwefru cerbydau trydan; yn amodol ar ddatblygiad polisi o ran sut bydd hwn yn gweithredu.
Roedd y Cabinet hefyd wedi cytuno ar gam nesaf y gweithrediad, a fydd yn golygu y bydd rhagor o fflyd y Cyngor yn cael eu disodli gan gerbydau allyriadau isel iawn. Bydd y camau nesaf yn y trawsnewid hefyd yn cynnwys peilot gwefru gartref ar gyfer aelodau o staff sydd yn mynd â cherbydau adref ar ddiwedd y diwrnod gwaith.
Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Newid yn yr Hinsawdd, "Ym mis Mehefin 2019 cyhoeddodd y Cyngor 'argyfwng hinsawdd' ac ers hynny rydyn ni wedi bod yn gweithio i gyflawni ein hymrwymiad i ddod yn garbon niwtral. Pe bai pob fan bach a chanolig yn newid o ddisel i drydan, gallai arbedion carbon fod tua 650 tunnell y flwyddyn. Dyma ostyngiad sylweddol a rhywbeth byddem ni'n hapus i'w weld.
"Rydyn ni eisoes wedi cyflwyno sawl cerbyd trydan i'n fflyd; nawr bod yr isadeiledd gwefru yn ei le yn ein hadeiladau allweddol, gallwn ddechrau trawsnewid hyd yn oed yn fwy. Nid yn unig ydyn ni'n lleihau allyriadau carbon, ond rydyn ni hefyd yn gwneud arbedion costau sylweddol a all gael eu hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau er budd ein trigolion; gydag arbedion amcangyfrifiedig o £800 y cerbyd, y flwyddyn.
"Hefyd, y gobaith yw y bydd polisi i ganiatáu i’n staff ddefnyddio'r mannau gwefru at ddefnydd personol yn annog rhagor o bobl i newid i drydan; gan helpu ym mhellach i daclo'r argyfwng hinsawdd. Mae hyn yn ychwanegol i osod mannau gwefru cerbyd trydan mewn meysydd parcio ledled y fwrdeistref yn 2021."
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Busnes lleol To Me To You Removals i ddechrau ail gwmni storio, gyda chymorth Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Caerffili
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y