News Centre

Gofyn i drigolion Caerffili roi eu barn ar gartrefi gwag

Postiwyd ar : 07 Rhag 2022

Gofyn i drigolion Caerffili roi eu barn ar gartrefi gwag
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i drigolion roi eu barn ar y ffordd mae'n delio â chartrefi gwag.

Mae'r ‘Strategaeth Cartrefi Gwag yn y Sector Preifat 2023 – 2028’ ddrafft yn nodi cynlluniau’r Cyngor i fynd i’r afael â’r broblem o ran y niferoedd uchel o gartrefi gwag yn y Fwrdeistref Sirol. Mae hefyd yn nodi'r ystod o fentrau sydd ar gael i'r Cyngor i helpu perchnogion sicrhau bod eu cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto. 

Mae’r strategaeth hon yn cyfeirio at gartrefi gwag yn y sector preifat yn unig ac nid yw’n cwmpasu cartrefi gwag o fewn stoc tai’r Cyngor ei hun neu’r rhai sy’n eiddo i landlordiaid cymunedol eraill.

Gall trigolion roi eu barn ar y strategaeth ddrafft drwy lenwi arolwg ar-lein ar wefan y Cyngor, neu drwy gysylltu â’r tîm Tai Sector Preifat i ofyn am gopi drwy ffonio 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk.

Daw’r ymgynghoriad i ben ddydd Mercher 18 Ionawr 2023.


Ymholiadau'r Cyfryngau