News Centre

Cronfa Fenter Caerffili yn cynyddu deirgwaith er mwyn helpu busnesau lleol

Postiwyd ar : 19 Rhag 2022

Cronfa Fenter Caerffili yn cynyddu deirgwaith er mwyn helpu busnesau lleol
Mae mwy o fusnesau lleol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi elwa ar gyllid eleni, gyda Chronfa Fenter Caerffili yn cynyddu deirgwaith o gymharu â 2021.

Mae cyfanswm o £151,746 wedi'i roi i gynorthwyo busnesau a mentrau cymunedol newydd a sefydledig ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae Cronfa Fenter Caerffili wedi'i hanelu at fusnesau newydd, a mentrau bach a chanolig sydd â llai na 250 o weithwyr. Gall ymgeiswyr i'r Gronfa gael hyd at £2,000 tuag at gostau refeniw a hyd at £10,000 tuag at gostau cyfalaf ar gyfer gwella eiddo a all gynnwys gwaith allanol a mewnol ar eiddo busnes.

Roedd Gatehouse, yng nghanol tref Caerffili, ymhlith y busnesau lleol i elwa ar y Gronfa, gyda'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i helpu adnewyddu tu mewn i'w heiddo er mwyn caniatáu bar lolfa ac ystafelloedd digwyddiadau.

Dywedodd Lee Edwards, cyd-berchennog Gatehouse, “Yn Gatehouse, roedden ni'n ddigon ffodus i fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Fenter Caerffili. Helpodd y cyllid sicrhau bod y gwaith a gafodd ei wneud wedi'i orffen i safon wych, ac mae'r lleoliad nawr yn ased i ganol tref Caerffili. Byddwn i'n argymell Cronfa Fenter Caerffili yn fawr gan ei bod hi'n helpu i ddatblygu busnesau newydd, fel ni, lle mae cyllid yn hollbwysig.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Dros y 4 blynedd diwethaf, mae Cyngor Caerffili wedi parhau i sicrhau bod Caerffili yn lle gwych i wneud busnes trwy fuddsoddiadau ystyrlon, lleol, gyda buddsoddiad syfrdanol gwerth £500m hyd yma.

“Mae'n wych gweld busnesau ac entrepreneuriaid yn manteisio ar gronfeydd, fel Cronfa Fenter Caerffili. Rydyn ni'n dymuno bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”

Er bod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi'i dyrannu'n llawn, bydd ceisiadau'n agor eto o 1 Ebrill 2023 ymlaen.

Am ragor o wybodaeth am Gronfa Fenter Caerffili, ewch i: www.caerffili.gov.uk/business/business-grants-and-funding/caerphilly-enterprise-fund?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau