News Centre

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Heddlu Gwent yn gweithio i greu Strydoedd Mwy Diogel yng Nghoed Duon

Postiwyd ar : 09 Rhag 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Heddlu Gwent yn gweithio i greu Strydoedd Mwy Diogel yng Nghoed Duon
Cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Heddlu Gwent seilwaith teledu cylch cyfyng newydd yng nghanol tref Coed Duon.
 
Mae deunaw o gamerâu digidol newydd wedi'u gosod ledled ardal Coed Duon, gan gynnwys canol y dref, yr orsaf fysiau, maes parcio'r Stryd Fawr a mwy, yn lle'r hen offer a ddefnyddiwyd yn flaenorol.
 
Mae'r camerâu newydd yn addo dod â delweddau o ansawdd uwch a mwy o sylw a byddant yn cael eu monitro 24/7, gydag adroddiadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol at yr heddlu yn ystod argyfyngau.
 
Nod y gwaith, a gyflawnwyd fel rhan o fenter Strydoedd Mwy Diogel Heddlu Gwent, yw atal troseddau cymdogaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chynorthwyo swyddogion sy’n cynnal ymchwiliadau yn yr ardal.
 
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi gosodiad o ddeunaw o gamerâu newydd ledled Coed Duon. Rydym yn hyderus bydd y camerâu newydd yn gweithio i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel y gall yr ardal barhau i fod yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi.
 
“Hoffem ddiolch i Heddlu Gwent am eu cymorth gyda’r prosiect a’u partneriaeth barhaus.”
 
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Gwent, Hannah Lawton: “Dylai pawb deimlo’n ddiogel lle maen nhw’n byw ac yn gweithio ac rydyn ni’n gobeithio y bydd gosod y camerâu newydd hyn yn ardal Coed Duon yn rhoi sicrwydd i’r gymuned bod yr heddlu a’r awdurdod lleol yn gweithio gyda’i gilydd i atal troseddau, a mynd ati i nodi unrhyw un sy’n bwriadu cyflawni trosedd.
 
“Bydd y camerâu newydd, sydd â gallu is-goch ac sy’n darparu delweddau o ansawdd uwch nag o’r blaen, yn rhwystr ychwanegol i bobl sy’n ystyried cymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol ac yn cynyddu ein gallu i gasglu tystiolaeth hollbwysig pan fydd trosedd yn digwydd.
 
“Rwy’n ddiolchgar am y bartneriaeth gadarnhaol barhaus gyda’r cyngor i sicrhau bod pobl leol yn elwa o’r cynllun Strydoedd Mwy Diogel.”


Ymholiadau'r Cyfryngau