News Centre

Cabinet Caerffili yn cytuno ar Bolisi Perchentyaeth Cost Isel

Postiwyd ar : 14 Rhag 2022

Cabinet Caerffili yn cytuno ar Bolisi Perchentyaeth Cost Isel
Heddiw (14 Rhagfyr), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo Polisi Perchentyaeth Cost Isel yn unfrydol. Bydd yn helpu'r rhai sydd ar incwm is i gael mynediad i berchentyaeth fforddiadwy.

Mae'r polisi'n berthnasol i'r eiddo hynny sydd wedi'u prynu gan y Cyngor drwy'r system gynllunio neu eiddo sydd wedi'i adeiladu drwy ei raglen ddatblygu ei hun. Nid yw’n berthnasol i gartrefi o fewn stoc dai bresennol y Cyngor. 
 
Drwy’r polisi, gall darpar brynwyr tai brynu eiddo drwy rannu ecwiti, rhanberchnogaeth, neu ranberchnogaeth ar gyfer pobl hŷn.  I fod yn gymwys, rhaid i ddarpar brynwyr tai fodloni meini prawf penodol, sy'n cael eu nodi yn y polisi.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni'n deall bod llawer o bobl leol yn dyheu am berchentyaeth, ond mae problemau cynyddol ynghylch fforddiadwyedd yn atal llawer rhag gallu prynu eu cartref eu hunain. 
 
“Ar hyn o bryd, rydyn ni yng nghanol argyfwng tai cenedlaethol a gyda dros 6,000 o ymgeiswyr wedi’u cofrestru ar Gofrestr Tai Cyffredin Caerffili, nid yw darparu ystod o opsiynau i bobl gael mynediad i dai cynaliadwy a fforddiadwy erioed wedi bod yn fwy pwysig.
 
“Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu cartrefi newydd a chynyddu'r stoc dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol.  Mae lansio’r Polisi Perchentyaeth Cost Isel yn gam arall ar y daith gyffrous hon.”

Mae modd gweld Polisi Perchentyaeth Cost Isel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yma.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau