News Centre

Cabinet Caerffili yn cytuno ar gynnydd rhent tai ar gyfer 2023/24

Postiwyd ar : 14 Rhag 2022

Cabinet Caerffili yn cytuno ar gynnydd rhent tai ar gyfer 2023/24
Heddiw (14 Rhagfyr), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno ar lefelau rhent deiliaid contract (tenantiaid) ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
 
Cymeradwyodd aelodau’r Cabinet gynnydd blynyddol o 6.5% ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, yn unol â pholisi pennu rhenti Llywodraeth Cymru eleni. Bydd hyn yn cynyddu'r rhent cyfartalog presennol £6.10 yr wythnos, o £93.80 i £99.90. Ni fydd 78% o ddeiliaid contract y Cyngor yn cael eu heffeithio gan y cynnydd, gan eu bod nhw'n cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol.
 
Bydd rhent ar gyfer garejys yn y Fwrdeistref Sirol sy'n eiddo i'r Cyngor yn cynyddu 5.5% i £8.85 yr wythnos.
 
Cafodd y penderfyniadau eu gwneud ar ôl i aelodau'r Cabinet ystyried llawer o faterion, gan gynnwys fforddiadwyedd i ddeiliaid contract ac effaith chwyddiant uchel ar ddarparu gwasanaethau.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Ar hyn o bryd, mae gennym ni un o'r rhenti awdurdod lleol isaf yng Nghymru ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein rhenti ni'n parhau i fod yn fforddiadwy. Er bod cynnydd y flwyddyn nesaf yn dal yn is na chwyddiant, rydyn ni'n deall bod unrhyw gynnydd yn bryder, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw presennol.
 
“Mae'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu ni yn eithriadol ac os na chaiff rhenti eu cynyddu, byddai hyn yn arwain at ostyngiad mewn gwasanaethau a'r angen am fwy fyth o fenthyca.
 
“Mae cynorthwyo ein deiliaid contract a'u helpu i gynnal eu contractau meddiannaeth yn flaenoriaeth allweddol i ni. Rydyn ni'n rhoi sicrwydd i ddeiliaid contract na fyddwn ni'n troi neb allan oherwydd caledi ariannol pan fyddan nhw'n ymgysylltu â ni i geisio cymorth.
 
“Mae'r dull hwn wedi golygu nad oedd dim achosion o droi allan yn ystod y flwyddyn diwethaf. Hefyd, yn ystod 2021/22, llwyddodd ein Gwasanaeth Cymorth Tai i sicrhau £3.2 miliwn mewn incwm budd-daliadau ychwanegol ar gyfer ein deiliaid contract ni. Mae'r tîm eisoes wedi cynhyrchu dros £1.57 miliwn mewn incwm ychwanegol yn ystod 6 mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon.
 
“Rwy'n annog unrhyw un a allai fod yn pryderu am eu harian i gysylltu â'n Gwasanaeth Cymorth Tai i gael gwybod pa gyngor a chymorth sydd ar gael.”
 
Gall deiliaid contract y Cyngor gysylltu â Gwasanaeth Cymorth Tai y Cyngor drwy ffonio 01443 811450, anfon e-bost at SwyddfaCymorthTenantiaeth@caerffili.gov.uk neu anfon y gair RENTHELP mewn neges destun i 81400 (bydd aelod o'r tîm yn ffonio'n ôl).
 


Ymholiadau'r Cyfryngau