News Centre

Apêl am ragor o letywyr i bobl o Wcráin

Postiwyd ar : 02 Rhag 2022

Apêl am ragor o letywyr i bobl o Wcráin
Ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin, mae trigolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dangos haelioni anhygoel drwy gynnig cartrefi diogel i bobl sy'n ffoi rhag yr argyfwng. Mae’r cynhesrwydd a’r croeso wedi'u darparu wedi bod yn werth y byd i lawer, ond mae llawer mwy sydd angen cymorth.

Mae'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn gofyn i ragor o drigolion ystyried dod yn lletywyr.

Mae lletywyr yn darparu llwybr i ddiogelwch ar gyfer Wcreiniaid, ac aelodau o'u teulu agos, sy'n cael eu gorfodi i ddianc o'u mamwlad. Mae cymorth ar gael i letywyr a gwesteion gan dîm ymroddedig yn y Cyngor.

Mae Sarah Willans yn lletywryn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd, dyma’r hyn a ddywedodd hi am ei phrofiad gyda’i gwestai: “Rwyf wrth fy modd i'w chael hi yma, ac mae hi wedi gwella fy mywyd yn gadarnhaol – mae ganddi hi synnwyr digrifwch gwych sydd rywsut yn goresgyn y rhwystr iaith, ac mae hi mor feddylgar a chymwynasgar. Rwy’n hapus iawn i’w chael hi yma cyhyd ag y mae hi eisiau aros.”

Dywedodd y Cynghorydd Cook, “Fel mae enghraifft Sarah yn dangos, gall bod yn lletywr fod yn hynod werth chweil i bawb dan sylw. Mae'r rhai sy'n ffoi o Wcráin yn wynebu erchyllterau annirnadwy, ac rydyn ni'n falch o gynnig noddfa ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”

Am ragor o wybodaeth am fod yn lletywr a'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys cymorth ariannol, cysylltwch â CymorthWcrain@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau