News Centre

Cyngor Caerffili yn cefnogi'r gyfraith ‘Ynni Cymunedol’ arfaethedig

Postiwyd ar : 14 Rhag 2021

Cyngor Caerffili yn cefnogi'r gyfraith ‘Ynni Cymunedol’ arfaethedig
Mae Cyngor Caerffili wedi dangos ymrwymiad trawsbleidiol i gefnogi bil a fyddai'n cynyddu ynni glân sy'n cael ei gynhyrchu yn y wlad hon, gan helpu i roi hwb i economïau lleol.

Mae'r hysbysiad o gynnig, a gafodd ei gytuno gan y Cyngor llawn, yn golygu bod Cyngor Caerffili yn ymuno ag awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig i gefnogi'r bil.

Roedd yr hysbysiad o gynnig yn glir wrth gydnabod yr ymdrechion y mae Cyngor Caerffili wedi'u gwneud i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a hybu ynni adnewyddadwy mewn ymdrech i hybu ffyrdd gwyrddach a glanach o fyw.

Os yw'n dod yn gyfraith, byddai'n creu'r ‘Hawl i Gyflenwad Lleol’ newydd o ran ynni a fyddai'n grymuso cymunedau i werthu trydan, sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol, yn uniongyrchol i gartrefi a busnesau lleol. Ar hyn o bryd, dim ond gan gwmnïau cyfleustodau trwyddedig cenedlaethol y gall cwsmeriaid brynu trydan.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Rydyn ni'n gyngor blaengar ac rydyn ni'n parhau i chwilio am ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau mewn ffordd werdd a chynaliadwy sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni'n cefnogi'r bil hwn i ddod yn gyfraith i ganiatáu i gynhyrchwyr trydan, fel cwmnïau lleol neu grwpiau cymunedol, werthu eu hynni yn uniongyrchol i bobl leol – a'i gwneud hi'n ariannol hyfyw i wneud hynny, gan arwain at hwb posibl i'r economi leol a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr lleol.”

Mae llythyr sy'n amlinellu cefnogaeth Cyngor Caerffili wedi'i anfon at Aelodau Seneddol lleol a threfnwyr yr ymgyrch dros y Bil, Power for People.


Ymholiadau'r Cyfryngau