News Centre

Busnes dylunio graffeg llwyddiannus, Guto King Design, yn cael hwb o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 10 Awst 2023

Busnes dylunio graffeg llwyddiannus, Guto King Design, yn cael hwb o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Guto King Design yn fusnes dylunio graffeg wedi'i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Pontygwindy, Caerffili. Mae'r perchennog, Guto Llewellyn King, wedi gweithio yn y sector dylunio graffeg ers dros 20 mlynedd, ond ym mis Awst 2022, penderfynodd ddechrau ei fusnes ei hun ar ôl i'r cwmni roedd e'n gweithio iddo fynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae'n arbenigo mewn argraffu arwyddion ar hyn o bryd, oherwydd y galw cynyddol.

Yn flaenorol, bu Guto'n gweithio yn Llundain, yn cynhyrchu rhaglenni pêl-droed Clwb Pêl-droed Chelsea, ac mae e hefyd wedi gweithio i Glwb Pêl-droed Fulham, yn argraffu cylchgronau misol. Wrth symud yn ôl i Gaerffili, symudodd i mewn i'w safle newydd ym mis Tachwedd 2022 a dechreuodd gynhyrchu gwahanol fathau o arwyddion, o hysbysebion o amgylch caeau rygbi a hysbysebion ar flaen oergelloedd, i faneri cyhoeddusrwydd.

Mae gan y busnes lyfr archebion prysur ac, yn ddiweddar, maen nhw wedi cyflogi gosodwr arwyddion amser llawn i wneud yr arwyddion a'u gosod nhw ledled y wlad.

Cafodd Guto King Design £12,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y cyllid hwn i Guto King Design o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cafodd y grant arian cyfatebol gan y cwmni, sydd wedi'i ddefnyddio ar gyfer gwaith adeiladu i ddiweddaru safle'r busnes a chynorthwyo gyda phrynu peiriannau argraffu newydd.

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Roedd yn wych ymweld â Guto King i glywed am ehangu'r busnes. Roedd yn amlwg bod y darluniau ar yr arwyddion o'r safon uchaf. Rydyn ni'n falch bod defnydd da wedi'i wneud o'r cymorth ariannol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.”

Meddai'r perchennog, Guto Llewellyn King, “Mae'n wych bod grantiau o'r fath, a chymorth gan adran y Cyngor i wneud cais amdanyn nhw ar gael. Mae'r cymorth wedi cael effaith fawr ar dwf y busnes a'n gallu ni i ddiwallu anghenion fy nghwsmeriaid.”

Am ragor o wybodaeth am Guto King Design, ewch i'r wefan.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i Guto King Design ar y cyfryngau cymdeithasol:
Facebook
Instagram
LinkedIn

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF.
E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau