News Centre

Myfyrwyr yng Nghaerffili yn dathlu Diwrnod Canlyniadau UG a Safon Uwch 2023

Postiwyd ar : 17 Awst 2023

Myfyrwyr yng Nghaerffili yn dathlu Diwrnod Canlyniadau UG a Safon Uwch 2023
Heddiw, mae ysgolion a cholegau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dathlu diwrnod canlyniadau arholiadau UG a Safon Uwch. Mae’r garreg filltir arwyddocaol hon yn nhaith academaidd y dysgwyr ifanc hyn yn ddechrau cyfnod newydd ym mhob un o’u bywydau nhw, gan y bydd llawer ohonyn nhw nawr yn symud ymlaen i addysg bellach neu i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth fel prentisiaethau.

Wrth sôn am ganlyniadau anhygoel eleni, dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg: “Llongyfarchiadau enfawr i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cael eu canlyniadau UG neu Safon Uwch heddiw. Gobeithio eich bod chi i gyd yn falch iawn gyda'ch canlyniadau chi ar ôl yr holl waith caled rydych chi wedi'i wneud.

“Hoffwn i ymestyn fy nymuniadau gorau ar gyfer pa bynnag lwybr y byddwch chi’n dewis ei ddilyn yn y dyfodol a dylech chi a’ch teulu chi fod yn falch iawn o’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni hyd yn hyn. Gobeithio y byddwch chi i gyd yn mwynhau'r dathliadau a'ch gwyliau haeddiannol!”

Mae diwrnod canlyniadau bob amser yn gymysgedd o gyffro a nerfau i'r rhai sy'n disgwyl canlyniadau. Mae Cyngor Caerffili yn falch o ymdrechion ein dysgwyr ni eleni, gyda myfyrwyr yn dangos gwydnwch.

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer y rhai sy’n cael canlyniadau, gan gynnwys mynd ymlaen i addysg bellach mewn prifysgol, sicrhau lle mewn prifysgol drwy’r broses glirio a chwilio am gyfleoedd cyflogaeth neu brentisiaethau.

Fe wnaeth Keri Cole, Prif Swyddog Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, dynnu sylw at ymdrechion cyfunol yr holl addysgwyr sydd wedi cyfrannu at flwyddyn ysgol lwyddiannus arall, “Yn ddiamau, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i addysgwyr, rhieni, gwarcheidwaid a myfyrwyr.

“Mae diwrnod canlyniadau arholiadau yn uchafbwynt i’r gwaith caled parhaus sy’n digwydd y tu ôl i'r llenni ac o fewn ein hystafelloedd dosbarth ni bob dydd, gyda’r nod o sicrhau bod trigolion Caerffili yn derbyn addysg o’r radd flaenaf.”

“Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wneud eleni yn flwyddyn lwyddiannus arall i’n myfyrwyr ni – a llongyfarchiadau i bob un ohonoch chi sy’n dathlu heddiw.”

Wrth i fyfyrwyr ddathlu eu llwyddiannau nhw, ymunwch â'n sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i ni barhau i rannu straeon y rhai sy'n dathlu.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau