News Centre

Spirafix Ground Anchoring Ltd: Busnes lleol yn ffynnu gyda chymorth cyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Postiwyd ar : 18 Awst 2023

Spirafix Ground Anchoring Ltd: Busnes lleol yn ffynnu gyda chymorth cyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Mae Spirafix Ground Anchoring Ltd yn fusnes sefydledig sy'n cynhyrchu ac yn dosbarthu angorau tir, wedi'i leoli yng Nghwmcarn. Cyfarwyddwyr y busnes lleol yw Paul Clatworthy ac Anthony Morgan.

Mae rhinweddau ‘gwyrdd’ cynhyrchion presennol y cwmni yn disodli concrit, gan fod y cwmni wedi ehangu'r dewis a'r defnydd ohonyn nhw yn lle concrit, a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio. Mae'r holl gynhyrchion yn gwbl ailgylchadwy, ac mae ganddyn nhw gylchred oes o 50 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n gwerthu i'r diwydiannau ynni adnewyddadwy sy'n defnyddio safleoedd tir llwyd a mannau wedi'u tarmacio ar gyfer gosod offer cynhyrchu ynni solar.

Mae gwaith yn cael ei wneud ledled y Deyrnas Unedig ar storfeydd ceir solar, sef meysydd parcio gyda phaneli solar uwchben. Mae'r busnes hefyd yn gwneud gwaith ar gyfer National Grid, contractwyr mawr o'r radd flaenaf, yn ogystal â chyflenwi dulliau angori ar gyfer Lyndon SGB, sef cwmni sgaffaldiau mwyaf y Deyrnas Unedig.

Mae Spirafix hefyd wedi darparu angorau tir ar gyfer gwyliau fel Glastonbury a Boomtown, ac wedi gwneud gwaith ar gyfer Wimbledon.

Cafodd y busnes gyfalaf gwerth £12,660.56 a refeniw gwerth £1,271.50 drwy Grant Datblygu Busnes Cronfa Fenter Caerffili.

Mae Spirafix Ground Anchors Ltd wedi cael cyfanswm o £13,932.06 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y cyllid hwn i Spirafix Ground Anchors Ltd o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cafodd y grant arian cyfatebol gan y cwmni i'w helpu i symud i'r ardal ac i safle mwy. Mae'r cwmni'n cyflogi 9 aelod o staff ac yn gobeithio creu 2 swydd newydd ar unwaith yn ogystal â swyddi yn y dyfodol gyda thwf disgwyliedig.

Cyn cael y grant, bu'r cwmni yn ardal awdurdod lleol Casnewydd am yr 20 mlynedd diwethaf a mwy. Ar ôl gwaith ymchwil a datblygu, mae'r cwmni wedi cynyddu ei fusnes 15% ac mae'r twf yn parhau oherwydd hirhoedledd contractau.

Cynlluniau'r busnes ar gyfer y dyfodol yw parhau i dyfu, parhau i gynhyrchu, a chynyddu nifer ei beiriannau gosod seilbyst.

Dywedodd Adam Sadler, Prif Swyddog Datblygu Busnes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae'n bleser croesawu busnes mor wych i'r Fwrdeistref Sirol, ac mae tîm busnes y Cyngor yn edrych ymlaen at roi rhagor o gymorth i'r busnes wrth iddo barhau i dyfu.”

Dywedodd Paul Clatworthy, “Rwy'n ddiolchgar iawn am y cymorth gan dîm busnes y Cyngor; mae Sally Harvey wedi ein harwain ni drwy'r broses grantiau ac wedi'i gwneud hi'n hawdd iawn gwneud cais. Mae'r grant wedi ein helpu ni i symud i adeilad llawer mwy ac wedi cyflymu ehangu'r busnes. Mae ein gweithwyr i gyd yn byw'n lleol, felly mae adleoli i'r ardal hon wedi bod yn ddelfrydol.”

Am ragor o wybodaeth am Spirafix, ewch i'r wefan.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i Spirafix ar y cyfryngau cymdeithasol:
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF
E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau