News Centre

Mae angen eich cymorth chi ar fanciau bwyd lleol

Postiwyd ar : 07 Awst 2023

Mae angen eich cymorth chi ar fanciau bwyd lleol

Mae banciau bwyd yn ceisio cymorth brys gan drigolion i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o gyflenwad bwyd i gynorthwyo’r rhai mewn angen ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae hyn yn dilyn galw digynsail sy'n cael ei roi ar y gwasanaeth oherwydd y cynnydd parhaus mewn costau byw.

Ystyried rhoi i'ch banc bwyd lleol, ond ddim yn siŵr beth i'w roi?

Mae Llaeth hirhoedlog, llysiau mewn tun, sudd hirhoedlog, tuniau ffrwythau ymysg rhai o'r eitemau hanfodol y mae banciau bwyd eu hangen yn aml.

Dyma 10 eitem hanfodol y gallwch chi ei roi i'ch banc bwyd lleol!

  1. Grawnfwyd
  2. Nwdls gwib
  3. Sudd hirhoedlog neu sgwash
  4. Saws pasta
  5. Pwdinau - gan gynnwys pwdin reis, angel delight a jeli
  6. Te / Coffi
  7. Ffrwythau mewn tun
  8. Cig mewn tun - y mae modd eu bwyta'n boeth neu'n oer
  9. Llysiau mewn tun
  10. Llaeth hirhoedlog

Yn ogystal â chynhyrchion bwyd, mae banciau bwyd hefyd yn ceisio darparu eitemau hanfodol eraill sydd ddim yn fwyd i'r rhai sydd â’r angen mwyaf. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cyflenwad nwyddau babanod
  • Eitemau glanhau - glanedydd, hylif golchi llestri, ayyb,
  • Pethau ymolchi a chynhyrchion misglwyf

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet, "Mae banciau bwyd ar draws y fwrdeistref sirol yn gweld galw sylweddol ar eu gwasanaeth, ar yr adeg anodd hon i lawer, wrth i fwy o drigolion droi at fanciau bwyd am gymorth.

Mae croeso i bob rhodd, waeth pa mor fach, a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y rhai mewn angen yn y cyfnod anodd yma.”

Am restr lawn o'r banciau bwyd rydyn ni’n eu cefnogi a/neu'n darparu cyllid ar eu cyfer, ewch i'n
tudalen costau byw.

Cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili i gael eich cyfeirio at fanc bwyd neu os ydych chi angen cymorth a chyngor am gostau byw.

E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk

Ffôn: 01443 811490

Mae tîm Gofalu am Gaerffili ar gael yn ystod oriau swyddfa – dydd Llun i ddydd Iau (8.30am-5pm) a dydd Gwener (8.30am – 4.30pm).



Ymholiadau'r Cyfryngau