News Centre

Mae Maethu Cymru Caerffili yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol

Postiwyd ar : 18 Awst 2023

Mae Maethu Cymru Caerffili yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol
Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Caerffili yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.
 
Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.
 
Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Caerffili  – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mae’r newidiadau hyn yn galonogol iawn ac yn gam cadarnhaol ymlaen i bobl ifanc sy’n derbyn gofal yng Nghymru.
 
"Mae maethu gyda'ch awdurdod lleol yn cynnwys llawer o fanteision gan gynnwys y swm enfawr o gymorth a hyfforddiant rydych chi'n ei gael! Yn bwysicaf oll, mae'n rhoi'r opsiwn i bobl ifanc aros yn lleol.
 
"Mae gofalwyr maeth yn newid bywydau plant sy’n derbyn gofal bob dydd ac rydyn ni mor falch o’r gwaith maen nhw'n ei wneud. I ddysgu rhagor am faethu gyda’ch awdurdod lleol chi, cysylltwch â’n tîm maethu cyfeillgar.”
 
Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.
 
Esboniodd y gofalwr maeth Tracey, a newidiodd o asiantaeth annibynnol i wasanaeth Maethu Cymru Caerffili, ei stori – a’r gwahaniaeth mae hi wedi’i weld wrth faethu gyda’r awdurdod lleol: “Pan ddechreuais i faethu gydag asiantaeth, roeddwn i'n maethu plant hŷn a oedd yn byw y tu allan i'r ardal. Fe wnes i weld bod y bobl ifanc yn ei chael hi'n anodd iawn bod mor bell i ffwrdd o'u cymuned. Yn aml, byddai'n rhaid iddyn nhw ddeffro'n andros o gynnar i fynd i'r ysgol ac roedden nhw'n teimlo'u bod nhw ar wahân i'w ffrindiau.

"Ers gwneud y newid i wasanaeth Maethu Cymru Caerffili, dydw i ddim wedi difaru! Mae’n llawer haws i’r plant sydd â chysylltiadau fod yn eu hardal eu hunain ac mae’n fwy naturiol ar gyfer ymweliadau ac amser gyda'r teulu.  Mae’r tîm wedi bod yn anhygoel ac mae rhywun wastad wedi bod."

Cliciwch yma I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo i'ch awdurdod lleol.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau