News Centre

Darllen Co.: Y llwyfan llyfrau darllen Cymraeg rhyngweithiol wedi'i ddechrau gyda chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Postiwyd ar : 10 Awst 2023

Darllen Co.: Y llwyfan llyfrau darllen Cymraeg rhyngweithiol wedi'i ddechrau gyda chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Mae Darllen Co. yn adnodd llyfrau darllen Cymraeg rhyngweithiol ar gyfer plant ysgolion cynradd, athrawon a rhieni ledled Cymru. Mae'r busnes yn cynnig llwyfan lle mae modd darllen llyfrau Cymraeg, a gwrando arnyn nhw. Mae'r llyfrau hefyd yn galluogi darllenwyr i glicio ar eiriau anghyfarwydd i gael diffiniadau ac ynganiadau. Mae'r cwmni'n cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Darllen Co. wedi bod yn gweithredu ers 2022 a chafodd ei sefydlu gan Alex Knott, a oedd yn athro ysgol gynradd llwyddiannus am 7 mlynedd pan gafodd y syniad ar gyfer y cwmni.

Fe gafodd Darllen Co. £5,500 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y cyllid hwn i Darllen Co. o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Fe wnaeth y cyllid helpu cychwyn y busnes newydd a chynorthwyo gyda datblygiad gwaith darlunio ac ysgrifennu'r llyfrau cyntaf. Fe wnaeth hefyd helpu gyda chwblhau'r wefan a phrynu offer recordio llais.

Mae'r llwyfan wedi mynd o nerth i nerth ac mae dros 100 o ysgolion ledled Cymru bellach wedi cofrestru, ac mae'r cwmni'n ystyried gweithio gyda Phrifysgol Bangor ar Arloesi ym maes Technoleg Iaith i'r Gymraeg. Mae Darllen Co. hefyd am gyflogi dau siaradwr Cymraeg erbyn diwedd ei flwyddyn gyntaf.

Mae'r cwmni wedi manteisio ar grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig eto eleni ar gyfer rhagor o refeniw gwerth £5,000 i helpu cynorthwyo gydag ysgrifennu a darlunio llyfrau newydd, gan fod y cwsmeriaid wedi gofyn am gynnwys newydd.

Mae'r cwmni bellach wedi symud i mewn i swyddfa, mae ganddo ddau weithiwr a'r bwriad yw cyflogi un aelod arall o staff amser llawn yn y dyfodol agos.

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Mae Darllen Co. yn cynnig llwyfan lle mae modd darllen llyfrau Cymraeg, a gwrando arnyn nhw, gyda'r gallu i glicio ar eiriau anghyfarwydd am ddiffiniadau ac ynganiadau. Roedd yn dda gweld sut mae'r cyllid wedi helpu datblygu addysg Gymraeg.”

Dywedodd Alex Knott, “Mae'r cymorth gan dîm busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn amhrisiadwy, mae'r grant wedi rhoi hwb mawr i'r busnes ac wedi fy ngalluogi i greu 25 o lyfrau ac ehangu'r busnes yn llawer cyflymach na baswn i wedi gallu heb eu cymorth nhw.”

Am ragor o wybodaeth am Darllen Co., ewch i'r wefan.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i Darllen Co. ar y cyfryngau cymdeithasol:
Facebook
Twitter
Instagram
LinkedIn

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF.
E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau