News Centre

Adroddiad blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei ystyried yn llwyddiant ysgubol

Postiwyd ar : 16 Awst 2023

Adroddiad blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei ystyried yn llwyddiant ysgubol
Mae asesiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei gynnal ar Wasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili ar gyfer 2021-2022.

Mae'r fframwaith hwn yn darparu mecanwaith i alluogi darparwyr gwasanaethau gynllunio eu darpariaeth, ac i'r cyhoedd wybod beth i'w ddisgwyl gan eu gwasanaeth llyfrgell nhw.

Yn yr adroddiad cadarnhaol, roedd cydnabyddiaeth bod Gwasanaeth Llyfrgell Caerffili wedi darparu tystiolaeth a oedd yn bodloni pob un o’r 12 hawl graidd yn llawn, gan gynnwys y canlynol:
  • Mae pob llyfrgell yn rhad ac am ddim i ymuno â nhw ac yn agored i bawb
  • Mae ein llyfrgelloedd ni'n darparu mannau ffisegol diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas wedi'u staffio
  • Mae llyfrgelloedd yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol, ac adnoddau o ansawdd uchel yn y Gymraeg ac ati.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu bod gan y gwasanaeth, yn y flwyddyn adrodd, 79 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o drigolion, sef cynnydd o 172% ers y flwyddyn flaenorol. Mae sylwadau cadarnhaol eraill a gafodd eu nodi yn yr adroddiad yn cynnwys sut mae holl lyfrgelloedd y Fwrdeistref Sirol yn canolbwyntio ar amcanion lles ac addysg, yn ogystal â sicrhau bod adnoddau Cymraeg ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Mae hwn yn adroddiad hynod lwyddiannus sy'n cydnabod sut mae anghenion ein cymunedau ni'n cael eu diwallu gan Wasanaeth Llyfrgell Caerffili. Diolch i holl staff y llyfrgell am eu hymdrechion ymroddedig nhw i ddarparu gwasanaeth o safon mor uchel i drigolion y Fwrdeistref Sirol.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth llyfrgelloedd Caerffili, ewch i: https://www.caerffili.gov.uk/llyfrgelloedd


Ymholiadau'r Cyfryngau