Ymunwch â’r ‘Big Help Out’!
Postiwyd ar : 25 Ebr 2023
Bydd trigolion ledled y DU yn dod at ei gilydd i roi help llaw a chymryd rhan yn The Big Help Out i nodi Coroni’r Brenin ym mis Mai.
Gall cymunedau ledled bwrdeistref sirol Caerffili gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd:
- Ymunwch â'r ymgyrch genedlaethol – Mae gwefan The Big Help Out yn darparu llawer o wybodaeth a chyngor am gymryd rhan - https://thebighelpout.org.uk/
- Cyfleoedd gwirfoddoli lleol – gall Tîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor roi cyngor ar y gwahanol ffyrdd y gall pobl leol helpu yn eu cymuned. Cysylltwch ar 01443 811490 neu GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk i ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan.
- Glanhau ar gyfer y Coroni – Os hoffech chi wneud ymdrech frenhinol i wneud ein bwrdeistref sirol yn ffit i frenin, efallai y byddwch chi am drefnu sesiwn casglu sbwriel leol neu sesiwn clirio cymunedol. Os felly, gallwch chi gael offer o un o'r Hybiau Codi Sbwriel sy’dd wedi’u dosbarthu ledled y fwrdeistref sirol. I ddod o hyd i'ch hyb agosaf ewch i https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/hybiau-codi-sbwriel/ neu e-bostio Andy King yn Cadwch Gymru'n Daclus Andrew.King@keepwalestidy.cymru 07824504792.
- Mae gan ein partneriaid yng Nghymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gyfleoedd gwirfoddoli ar eu gwefan - https://www.gavo.org.uk/