News Centre

Pam y suo mawr yn Ysgol Gynradd Ty'n y Wern?

Postiwyd ar : 20 Ebr 2023

Pam y suo mawr yn Ysgol Gynradd Ty'n y Wern?
Bydd adran gweithrediadau parciau gwledig a chefn gwlad y Cyngor yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Gynradd Ty’n y Wern i greu ‘Coridor Gwenyn’, gyda’r prosiect yn dechrau’r wythnos yn cychwyn 17 Ebrill 2023.

Bydd hyn yn golygu tyfu a hau hadau blodau gwyllt ar ymyl hir rhwng yr ysgol a chaeau chwarae Llanfabon. Bydd y planhigion, sy’n gyfeillgar i wenyn a phryfed peillio, yn hafan i fioamrywiaeth, ac yn ychwanegu sblash calonogol o liw at fynedfa cerddwyr yr ysgol.

Bydd y tîm hefyd yn hau hadau blodau gwyllt sy'n addas ar gyfer perthi i ychwanegu at y gwaith gwych mae'r disgyblion eisoes wedi'i wneud yng ngardd yr ysgol.

Meddai Sophie Goodliffe, Pennaeth yr ysgol, “Mae'r coridor gwenyn wir yn uchafbwynt ar ddiwedd pwnc llwyddiannus arall. Yn ystod tymor y Gwanwyn, roedd yr ysgol yn astudio mythau a chwedlau lleol gan ganolbwyntio ar Bendigeidfran.

“Mae sôn bod Bendigeidfran wedi cael ei gladdu ar gopa Twmbarlwm a bod ei fedd cael ei warchod gan haid o wenyn. Fe wnaeth hyn sbarduno llawer o weithgareddau gwych, gan gynnwys cyfansoddi caneuon, creu stribedi comig, dringo Twmbarlwm ei hun ac adeiladu pen cawr mawreddog yng ngardd yr ysgol.”

Ychwanegodd Caroline Ap Hywel, arweinydd Eco-ysgolion a Dyniaethau yn yr ysgol, “Rydyn ni'n ysgol sydd wir yn gofalu am yr amgylchedd. Fel rhan o’n gwaith yn dysgu am wenyn, fe wnaeth ein criw 'Heddlu Bach' greu bomiau hadau a thaflenni a gafodd eu postio i aelodau’r gymuned i'w plannu yn eu gerddi eu hunain. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i’r awdurdod lleol am gynorthwyo'r prosiect hwn.”

Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Rwy’n falch iawn o glywed am frwdfrydedd Ysgol Gynradd Ty’n y Wern i greu ffynhonnell fwyd newydd i bryfed peillio a rhoi’r cyfle i blant ysgol brofi natur ar eu stepen drws.”


Ymholiadau'r Cyfryngau