News Centre

Enillydd cystadleuaeth enwi trên yn gwneud ymweliad arbennig â phencadlys Cyngor Caerffili

Postiwyd ar : 13 Ebr 2023

Enillydd cystadleuaeth enwi trên yn gwneud ymweliad arbennig â phencadlys Cyngor Caerffili
Cafodd Morgan Daniel, 12 oed ac o Nelson, ei wahodd i fynd ar daith breifat o amgylch pencadlys Tŷ Penallta Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddathlu iddo ennill cystadleuaeth enwi trên a gafodd ei gynnal gan Trafnidiaeth Cymru.

Cafodd y trên Dosbarth 231 newydd, a gafod ei ddadorchuddio yng Nghaerffili yn ddiweddar, ei enwi’n ‘Sultan’ gan Morgan.  Ar hyn o bryd, mae Morgan yn mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a dewisodd yr enw buddugol pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Bro Allta, Ystrad Mynach.

Ymunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, a’r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, â Maer Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Liz Aldworth, i arwain Morgan a’i rieni ar daith o amgylch Siambr y Cyngor a Pharlwr y Maer.

Meddai Morgan, “Roeddwn i eisiau ei enwi’n Sultan ar ôl y cerflun ym Mharc Penalllta, sef i goffáu’r merlod a fu’n gweithio ac a fu farw yn y pyllau.

"Gan ei fod mor agos at ble rydw i’n byw, fy ffrindiau’n byw a lle’r oedd fy ysgol, roeddwn i am ei enwi ar ôl ein treftadaeth a’n diwylliant lleol ni.”

Ychwanegodd y Maer, y  Cynghorydd Aldworth, “Roedden ni'n falch iawn o groesawu Morgan a'i rieni i'n pencadlys ni, sydd gerllaw Parc Penallta, sef cartref Sultan y merlyn pwll glo.  Llongyfarchiadau i Morgan ar ennill y gystadleuaeth; mae'n amlwg ei fod wedi ystyried ei gais yn drylwyr iawn a siaradodd yn arbennig o dda ar ddiwrnod y dadorchuddio.”
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau