News Centre

SPORTTAPE: Y Busnes Lleol, Ffyniannus sy'n Gweld Olympiaid ac Athletwyr Enwog yn Defnyddio eu Cynhyrchion

Postiwyd ar : 28 Ebr 2023

SPORTTAPE: Y Busnes Lleol, Ffyniannus sy'n Gweld Olympiaid ac Athletwyr Enwog yn Defnyddio eu Cynhyrchion
SPORTTAPE yw busnes teuluol, lleol sydd wedi cymryd bron degawd i gael llwyddiant dros nos. Cafodd y brand hwn ei greu o ganlyniad i angerdd i helpu athletwyr eraill i gael llai o anafiadau a gwella yn gyflymach. Roedd SPORTTAPE Ltd yn ffodus i gael cyflenwi Team GB â thâp ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012, a wnaeth gyrru'r busnes i enwogrwydd. 

Maen nhw nawr wedi gwerthu dros 5 miliwn metr o'u tâp cinesioleg blaenllaw ac mae e wedi cael ei wisgo gan nifer fawr o Olympiaid a Phencampwyr y Byd. Y nod yw creu ystod gyflawn o dapiau chwaraeon sy'n gallu cael eu gwisgo gan athletwyr proffesiynol ond sydd hefyd yn fforddiadwy i amaturiaid.

Maen nhw wedi ennill enw da am eu hansawdd a phrisiau fforddiadwy. Mae eu tapiau'n cael eu gwisgo bob penwythnos gan dros 300 o glybiau, o'r Uwch Gynghrair i'ch Cynghrair Dydd Sul Lleol.

Fe gafodd SPORTTAPE Ltd £4,515.25 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy eu Cronfa Ffyniant Gyffredin. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r grant hwn i SPORTTAPE Ltd o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Cafodd y grant hwn ei roi er mwyn helpu gyda phrynu cyfarpar technoleg gwybodaeth a ffilmio i’w helpu nhw i hysbysebu eu cynhyrchion a chael mynediad at farchnadoedd eraill, megis manwerthu ar-lein ar Amazon. Maen nhw hefyd yn awyddus i greu academi ar-lein sy'n darparu cyrsiau ar sut i ddefnyddio'r cynhyrchion a nodau dull byw iachus. Bydden nhw nawr yn marchnata yn fewnol ac maen nhw wedi creu swydd newydd i ganolbwyntio ar gynnwys a chyfryngau ar-lein.

Mae'r cwmni wedi gweld twf o 30% ac maen nhw wedi'u clustnodi i gyflawni trosiant o £2 miliwn eleni, gyda ffigyrau rhagamcanol o £3 miliwn y flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n gweithio ar dri safle, ond mae ganddyn nhw gynlluniau i ddod o hyd i safle yng Nghaerffili lle gallan nhw ddod â'r tri safle at ei gilydd o dan un to.

Meddai Kate-Anne Kelly, sylfaenydd SPORTTAPE, "Fel busnes sydd wedi'i leoli yng Nghaerffili, mae gallu cael mynediad at gyllid trwy Grant Datblygu Busnes Cronfa Menter Caerffili wedi ein helpu i hwyluso’r broses o brynu cyfarpar technolegol mawr eu hangen. O ganlyniad, rydyn ni nawr yn gallu ffilmio cynnwys addysgiadol ar-lein yn fewnol mewn ffordd broffesiynol ar gyfer ein cwsmeriaid, sy'n hyrwyddo'r ystod gyfan o gynhyrchion SPORTTAPE rydyn ni'n eu cynnig. Yn fwy diweddar, gyda'r cynnwys hwn, rydyn ni wedi ehangu i blatfformau cymdeithasol newydd gan gynnwys TikTok. Mae nawr gennym ni dros 280,000 o ddilynwyr ac mae ein fideos wedi'u weld dros 75 miliwn o weithiau gan gymryd ein busnes o De Cymru i’r byd rhyngwladol."

Meddai'r cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Mae SPORTTAPE Ltd yn fusnes sy'n ffynnu, gyda chynhyrchion sy'n cynorthwyo athletwyr ar y cae chwarae.  Rydyn ni wedi bod yn hapus i weithio gyda'r cwmni a chynnig cymorth ariannol i helpu nhw i dyfu."


Ymholiadau'r Cyfryngau